Newyddion S4C

Agor cwest i farwolaeth bachgen 16 oed yn Efailwen

22/03/2024
Tomos Llŷr Davies

Mae cwest wedi ei agor a'i ohirio i farwolaeth bachgen 16 oed fu farw mewn chwarel yn Sir Benfro.

Bu farw Tomos Llŷr Davies wedi digwyddiad yn ymwneud a thryc dros wythnos yn ôl yn Efailwen.

Roedd yn ddisgybl blwyddyn 11 yn Ysgol Bro Teifi, Llandysul, ac fe ddywedodd yr Heddlu Dyfed-Powys ar y pryd fod y gwasanaethau brys wedi eu galw i gyfeiriad yn ardal Clunderwen, wedi adroddiadau o ddigwyddiad mewn eiddo preifat brynhawn Mawrth.

Fe roddodd teulu Llŷr deyrnged iddo, yn ogystal â sawl cymdeithas a sefydliad yr oedd yn perthyn iddynt.

Cafodd archwiliad post mortem ei gynnal yn Ysbyty Treforys, Abertawe, ond nid yw'r canlyniadau wedi dod i law hyd yma.

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi dechrau ymchwiliad llawn i'r digwyddiad.

Cafodd y cwest ei ohirio tan ddyddiad sydd heb ei gadarnhau eto.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.