Newyddion S4C

Pêl-droed: Y Seintiau Newydd yn herio Airdrieonians yn ffeinal Cwpan Her yr Alban

Sgorio 24/03/2024
Y Seintiau Newydd (2024)

Bydd Y Seintiau Newydd yn anelu i fod y tîm cyntaf erioed o du allan i’r Alban i godi Cwpan Her yr Alban pan fydden nhw'n herio Airedrieonians brynhawn dydd Sul.

Wedi iddyn nhw eisoes sicrhau'r gynghrair a Chwpan Nathaniel MG, bydd tîm Craig Harrison yn gobeithio cipio eu trydydd tlws o'r tymor yn rownd derfynol y Cwpan Her yn Stadiwm Cymunedol Falkirk, gyda'r gic gyntaf am 16:15. Bydd y gêm yn cael ei ddangos yn fyw ar S4C.

Mae Cwpan Her yr Alban yn gystadleuaeth ar gyfer clybiau ail haen yr Alban ac îs, ac mae timau o Gymru wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan ers 2016/17.

Fe lwyddodd Y Seintiau Newydd i gyrraedd y rownd gynderfynol ar y ddau gynnig cyntaf gan golli yn erbyn St Mirren yn rownd gynderfynol 2016/17 cyn colli yn erbyn Dumbarton yn yr un rownd y tymor canlynol.

Cei Connah yw’r unig glwb arall o Gymru sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol a hynny yn 2018/19 dan arweiniad Andy Morrison, cyn colli 3-1 yn erbyn Ross County.

Eleni, mae’r Seintiau Newydd wedi trechu Hibernian B, East Fife, Arbroath a Falkirk i gyrraedd y rownd derfynol, ble mae Airdrieonians yn aros i’w herio.

Mae Airdrieonians yn glwb sydd wedi ei leoli rhwng Glasgow a Chaeredin, ac mae’r tîm yn bedwerydd ym Mhencampwriaeth yr Alban (haen 2), ac wedi trechu Stirling University, Rangers B, Greenock Morton a Raith Rovers i gyrraedd rownd derfynol y gwpan eleni.

Enillodd Airdrieonians y gwpan yn 2008/09 drwy guro Ross County ar giciau o’r smotyn yn y ffeinal, a bydd y ‘Diemwntiau’ yn gobeithio cael eu henw ar y tlws am yr eildro yn eu hanes.

Yn ogystal â sicrhau eu lle yn rownd derfynol Cwpan Her yr Alban, mae’r Seintiau Newydd eisoes wedi sicrhau pencampwriaeth y Cymru Premier JD, codi Cwpan Nathaniel MG, ac wedi camu ymlaen i rownd gynderfynol Cwpan Cymru.

Mae’r Seintiau wedi ennill 26 gêm yn olynol ym mhob cystadleuaeth (33 gêm os yn cynnwys y fuddugoliaeth ar giciau o’r smotyn yn erbyn East Fife), a dyw pencampwyr Cymru heb golli mewn 52 o gemau domestig.

Bydd Craig Harrison yn benderfynol felly o sicrhau ei drydydd tlws y tymor hwn gan gymryd cam yn nes at y ‘quadruple’ a dod yn hafal gyda’u record byd eu hunain o 27 buddugoliaeth yn olynol.

Gwyliwch y gêm yn fyw ar S4C a gwefannau cymdeithasol Sgorio am 16.15 ddydd Sul

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.