Newyddion S4C

Gweithwyr Trafnidiaeth Cymru i bleidlesio dros gychwyn streicio

22/03/2024
Y tren newydd

Bydd rhai aelodau undeb sy’n gweithio i Trafnidiaeth Cymru yn pleidleisio dros gychwyn cyfnod o streicio oherwydd anghydfod cyflog. 

Mi fydd aelodau’r undeb, Cymdeithas Staff Cyflogedig Trafnidiaeth (TSSA) sy’n gyfrifol am reoli cerbydau Trafnidiaeth Cymru, yn pleidleisio yn ystod yr wythnosau nesaf gan ystyried cyfnod pellach o streicio a ffyrdd eraill o weithredu diwydiannol. 

Mae’r undeb yn ymgyrchu dros anghydfod cyflog sy’n gysylltiedig â thaliadau ychwanegol ar gyfer gwaith patrwm shifft. 

Bydd y bleidlais yn agor ar 28 Mawrth gan ddod i ben ddiwedd mis Ebrill. 

Dywedodd Maryam Eslamdoust, ysgrifennydd cyffredinol yr undeb, fod yr hyn mae Trafnidiaeth Cymru yn ei gynnig i’w gweithwyr yn “anghyfiawn ac annheg.”

“Yn syml, rhaid iddynt gael yr un fargen â'r rhai y maent yn gyfrifol am eu rheoli.

“Fel mae’n sefyll mi fydd ein haelodau yn wynebu anfantais ddifrifol ar fater pensiynau ac ni ellir caniatáu i hynny ddigwydd.

“Rydym yn apelio i’r cwmni ac i Lywodraeth Cymru i weithredu ar unwaith er mwyn osgoi gweithredu diwydiannol allai ddinistrio’r rhwydwaith.” 

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru: “Byddwn yn parhau i gydweithio gydag ein partneriaid yn yr undebau er mwyn dod o hyd i ateb cyn gynted â phosib.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.