Ymchwiliad heddlu i sylwadau hiliol honedig gan Frank Hester am Diane Abbott
Mae Heddlu Gorllewin Swydd Efrog wedi datgan y byddant yn cynnal ymchwiliad i sylwadau hiliol honedig am Diane Abbott a gafodd eu gwneud gan un o brif roddwyr y blaid Geidwadol, Frank Hester.
Yr honiad oedd bod Mr Hester wedi dweud bod Ms Abbott yn gwneud iddo “fod eisiau casáu pob menyw ddu” ac y “dylai gael ei saethu”.
Dywedodd The Guardian fod Mr Hester wedi gwneud y sylwadau am Ms Abbott wrth feirniadu swyddog gweithredol benywaidd mewn sefydliad arall yn ystod cyfarfod ym mhencadlys ei gwmni meddalwedd, The Phoenix Partnership (TPP) yn 2019.
Yn ôl y papur newydd, roedd Mr Hester wedi dweud: “Mae fel ceisio peidio â bod yn hiliol ond rydych chi’n gweld Diane Abbott ar y teledu ac rydych chi fel… rydych chi eisiau casáu pob menyw ddu oherwydd ei bod hi yno.
Mae Mr Hester, a roddodd £10 miliwn i’r Ceidwadwyr y llynedd yn ôl y Comisiwn Etholiadol, yn dweud ei fod wedi cysylltu yn uniongyrchol gyda Diane Abbott er mwyn “ymddiheuro’n uniongyrchol am y boen mae wedi achosi iddi”.
Roedd y sylwadau wedi eu disgrifio gan y Prif Weinidog Rishi Sunak fel rhai “hiliol ac anghywir”, ond fe wrthododd alwadau i ddychwelyd arian Mr Hester, gan ddweud bod Mr Hester wedi ymddiheuro ac y dylai pobl “symud ymlaen”.
Ar ôl i Heddlu’r Met gadarnhau eu bod yn asesu’r sylwadau honedig, mae’r mater bellach wedi’i drosglwyddo i Heddlu Gorllewin Swydd Efrog oherwydd bod y sylwadau honedig wedi’u gwneud mewn cyfarfod yn Horsforth, ger Leeds.
Dywedodd llefarydd ar ran y llu: “Mae ein swyddogion wedi bod yn gweithio i sefydlu’r ffeithiau ac i ganfod a oes trosedd wedi’i chyflawni.
"Rydym yn cydnabod yr ymateb cryf i'r honiadau hyn ac yn gwerthfawrogi pawb sydd wedi cysylltu â ni ers cyhoeddi'r erthygl."
Mae Mr Hester yn dweud ei fod wedi ymddiheuro am wneud y sylwadau “cas” ond roedd yn mynnu nad oedden nhw yn “ymwneud o gwbl â’u rhyw na lliw ei chroen.”