'Mae'r gwaith yn dechrau nawr' i Gymru tuag at ffeinal gemau ail gyfle Euro 2024, meddai Joe Allen
'Mae'r gwaith yn dechrau nawr' i Gymru tuag at ffeinal gemau ail gyfle Euro 2024, meddai Joe Allen
Mae cyn chwaraewr canol cae Cymru, Joe Allen, wedi dweud bod gwaith y tîm o baratoi tuag at wynebu Gwlad Pwyl yn ffeinal gemau ail gyfle Euro 2024 “yn dechrau nawr.”
Yn dilyn buddugoliaeth gyfforddus 4-1 yn erbyn y Ffindir nos Iau, bydd Cymru yn herio Gwlad Pwyl gartref nos Fawrth, gyda'r enillydd yn mynd i’r Euros yn yr Almaen yn ystod yr haf eleni.
Ond mae’r cyfnod o baratoi rhwng y fuddugoliaeth nos Iau a’r gêm nesaf nos Fawrth yn “mor bwysig,” meddai Allen.
“Mae’r gwaith yn ddechrau nawr, yn syth ar ôl y gêm.
“Mae’r chwaraewyr sydd wedi chwarae, byddwn nhw’n ymlacio a ‘neud popeth maen nhw’n gorfod i cael eu hunan yn barod.
“Ac wedyn y chwaraewyr oedd ar y fainc; byddwn nhw’n syth allan ar y cae bore fory yn gweithio’n galed i baratoi,” meddai'r chwaraewr Abertawe wrth siarad ar raglen Sgorio wedi buddugoliaeth Cymru.
Goliau gan David Brooks, Neco Williams, Brennan Johnson a Dan James wnaeth sicrhau'r fuddugoliaeth swmpus nos Iau.
Dywedodd prif hyfforddwr Cymru, Rob Page, nad yw’n "gallu aros" am gêm dyngedfennol ei dim yr wythnos nesaf.
Inline Tweet: https://twitter.com/sgorio/status/1770932194887741649
Wrth siarad ochr yn ochr â Joe Allen, ychwanegodd y cyn chwaraewr pêl-droed Cymru, Gwennan Harries, ei bod yn gobeithio y byddai’r “dechreuad perffaith gaethon ni heno yn ‘neud y byd o wahaniaeth i ni” yn y ffeinal yn erbyn Gwlad Pwyl.
“Ti byth yn mynd i gyrraedd y rownd yma a cael gêm hawdd yn y rownd derfynol yn amlwg.
“Chwaraewyr profiadol iawn, chwaraewyr ar safon uchaf, ond ‘na be’ chi moyn profi eich hunan yn erbyn,” meddai.