Cymru drwodd i rownd derfynol gemau ail gyfle Euro 2024 gyda buddugoliaeth dros y Ffindir
Mae Cymru drwodd i ffeinal gemau ail gyfle Euro 2024 gyda buddugoliaeth 4-1 dros y Ffindir.
Bydd Cymru yn chwarae yn erbyn Gwlad Pwyl gartref nos Fawrth gyda'r enillydd yn mynd i Euros.
Daeth buddugoliaeth gyffordus i Gymru gyda goliau gan David Brooks, Neco Williams, Brennan Johnson a Dan James .
Cyn y chwiban gyntaf roedd rywfaint o godi cwestiynau am ddewis David Brooks dros Kieffer Moore.
Ond fe sicrhaodd Cymru'r dechrau gorau posib wrth i’r chwaraewr canol cae ymosodol o Southampton sgorio yn ail funud y gêm.
Llwyddodd i folio'r bêl i gefn y rhwyd wedi i gôl geidwad y Ffindir, Lukas Hradecky arbed ergyd gan Harry Wilson.
Ond doedd Y Ffindir ddim am eistedd yn ôl a bu bron i Daniel Hakans sgorio munudau yn unig yn ddiweddarach wrth i’r bel saethu dros y trawst.
Roedd yn teimlo fel bod Cymru eisoes wedi sicrhau buddugoliaeth ar 33 munud pan sgoriodd Neco Williams ar ôl cic rydd gan Harry Wilson.
Ond wrth i Gymru edrych ar eu mwyaf cyfforddus toc cyn hanner amser llwyddodd Teemu Pukki i gadw'r Ffindir yn y gêm wedi i Joel Pohjanpalo dorri drwy’r amddiffyn.
Dwyn y bêl
Roedd Cymru angen dechrau yn gryf eto yn yr ail hanner ac fe wnaethon nhw hynny wrth i Brennan Johnson sgorio wedi cic rydd gan Ethan Ampadu.
Roedd y gôl honno yn sicrhau bod clustog gyfforddus o ddwy gôl rhwng y Cymry a’u ffrindiau Ffinneg unwaith eto.
Ond gyda charfan go fawr o gefnogwyr y Ffindir yn y dorf yn llafarganu fe barhaodd y tîm i fygwth amddiffyn Cymru.
Ar 60 munud daeth Kieffer Moore ymlaen yn lle David Brooks i gynnig bygythiad gwahanol o flaen y gôl.
Newidiodd y Ffindir bethau hefyd a dod ag Oliver Antman a Kaan Kairinen ymlaen.
Am funud neu ddwy roedd yn ymddangos bod unrhyw amheuaeth a fyddai Cymru yn fuddugol ar ben wrth i Ben Davies sgorio pedwerydd.
Ond penderfynodd VAR na fyddai'r gôl yn cyfri oherwydd bod chwaraewr yn camsefyll.
Doedd dim ots am hynny wedi i Dan James ddwyn y bêl oddi ar Miro Tenho a sgorio eto.