Newyddion S4C

Simnai Caergybi ar Ynys Môn wedi cael ei dymchwel

21/03/2024

Simnai Caergybi ar Ynys Môn wedi cael ei dymchwel

Am funud i ddau a gyda chlec enfawr fe syrthiodd y cawr 450 o droedfeddi i'r llawr.

Dyma ddiwedd y Goliath sydd wedi bod yma ers dros 50 mlynedd.

Roedd 'na dyrfa fawr wedi dod yma i weld ei gwymp.

"Bydd e'n od rŵan a dim byd yna."

"Oedd y glec yn ofnadwy."

"Oedd, dipyn o sioc. Wnes i deimlo fe hefyd."

Be amdanach chi? "Mae'n reit bittersweet.

"Mae wedi bod yn iconic landmark yn Sir Fôn ers dros 50 mlynedd."

Geraint Williams o Aberffraw pwysodd y botwm i danio'r ffrwydron ar ôl ennill raffl er lles yr RNLI ac oedd o'n dipyn o brofiad.

"Dw i 'di neud digon o bethau yn fy mywyd ond oedd hwnna'n ffantastig.

"Oedd o mewn slow motion am dipyn... "..yna pob dim yn symud ymlaen... "..a pan hitiodd y simne'r llawr, oeddech chi'n deimlo fo."

Cyn iddo gau yn 2009 roedd Gwaith Alwminiwm Môn yn cyflogi cannoedd o bobl ac wedi cynhyrchu bron i 150,000 dunelli o'r metel.

Roedd cyn-weithwyr yno heddiw i weld cau pennod yn hanes Caergybi.

"Mae o wedi gwneud ei waith ond da i ddim yn sefyll yno rwan.

"Well cael gwared ac adeiladu rhywbeth i greu gwaith. Mae'n ddiwedd cyfnod yma heddiw ond yn ddechrau cyfnod hefyd. Mae pobl leol yn gobeithio y daw'r safle yn bwysig iawn i economi'r ardal yma yn y dyfodol.

"Ni'n ynys o fusnesau bach... "..wedyn mae 'na gyfle iddyn nhw fanteisio ar y busnesau mawr... "..a chyfle iddyn nhw ddatblygu i wneud o'n newydd.

"Dyna'r gobaith, y bydd yr economi'n tyfu sy'n dod a phres i'r ardal." Cau pennod felly ar ran o hanes diwydiannol Ynys Môn a gobaith o agor y clawr ar bennod newydd ar safle fu mor bwysig i economi'r gogledd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.