George North yn 'diolch' i gefnogwyr ar ôl dioddef anaf yn ei gêm olaf dros Gymru
Mae George North wedi diolch i gefnogwyr wrth ddatgelu ei fod wedi dioddef anaf difrifol i’w sawdl yn ei gêm olaf dros Gymru.
Wrth ennill cap rhif 121 dros ei wlad yn erbyn Yr Eidal ddydd Sadwrn, cafodd North, sy’n 32 oed, ei anafu ym munudau olaf y gêm.
Ar ôl derbyn triniaeth, roedd y poen yn amlwg ar wyneb y canolwr o Fôn wrth iddo gael ei gynorthwyo oddi ar y maes, i gymeradwyaeth y Stadiwm Principality.
Cafodd ei weld yn gadael y stadiwm yn ddiweddarach gyda baglau ac esgid fawr ar ei droed chwith.
Wrth ddiweddaru cefnogwyr am ei gyflwr, datgelodd North ei fod wedi dioddef rhwyg i wäell y ffêr (Achilles tendon).
Inline Tweet: https://twitter.com/George_North/status/1770771762365485461?s=20
Mewn neges ar gyfrwng cymdeithasol X, dywedodd: “Nid pawb sy’n cael y diweddglo tylwyth teg. Nid drwy rwygo fy achiles oeddwn i eisiau dod â fy ngyrfa ryngwladol i ben. Ond mi rydw i wedi mwynhau pob eiliad.
“Ni allaf ddiolch i bobl digon am eu cefnogaeth a’u negeseuon caredig. Ar y ffordd i wellhad rŵan.”
Bydd North yn gadael rhanbarth y Gweilch y tymor nesaf er mwyn ymuno â thîm Provence, sydd yn chwarae yn yr ail haen yn Ffrainc.
Ond bydd amheuon nawr os y byddai yn gallu chwarae eto dros y Gweilch cyn diwedd y tymor, gan ei fod yn debyg o wynebu cyfnod o fisoedd i ffwrdd wrth iddo wella o’r anaf.