Newyddion S4C

Dynes a enillodd £1m yn y loteri i brynu cartref newydd gyda'i gŵr sy'n wael iawn

21/03/2024
Marlyn ac Ian Anderson

Mae dynes a enillodd £1m ar y loteri yn bwriadu prynu cartref newydd er mwyn gwneud bywyd ei gŵr sy'n derfynol wael yn haws. 

Mae Marlyn, 70, ac Ian Anderson, 77, wedi bod yn byw yn ystafell flaen eu cartref yn Stirling yn Yr Alban yn sgil yr angen i'w gŵr gael gofal pob awr ar gyfer y cyflwr ysgyfaint a ddatblygodd wrth weithio ar safleoedd adeiladu. 

Mae'r cwpl wedi bod yn briod ers 32 o flynyddoedd ac mae ganddyn nhw ddau o blant a phump o wyrion.

Dywedodd Mrs Anderson eu bod yn gobeithio symud o'u cartref presennol i fyngalo cyfagos.

I ddechrau, roedd Mrs Anderson yn credu ei bod wedi ennill £1,000 ac roedd "wrth ei bodd" gyda hynny, ond dechreuodd feddwl mai sgam oedd y cwbl ar ôl iddi weld sawl rhif '0'.

"Fyddai'r fuddugoliaeth hon ddim wedi gallu dod ar amser gwell. Bydd yn sicrhau y gall Ian gael yr ansawdd bywyd gorau un yn yr amser sydd ganddo ar ôl," meddai.

"Yn sgil cyflwr Ian, nid oes modd iddo fynd i fyny'r grisiau. Mae'n cael trafferthion anadlu felly ar hyn o bryd ein hystafell fyw ydi ein hystafell wely. Does gennym ni ddim dewis arall.

"Fe fydd prynu byngalo yn galluogi Ian i gael ei ystafell wely ei hun ac fe fyddwn ni'n gallu cael ystafell fyw hefyd."

Ar 12 Mawrth, darganfyddodd Mrs Anderson fod ganddi £4.90 ar ôl yn ei chyfrif Loteri ar-lein ac fe benderfynodd brynu tocyn EuroMillions. 

"Dwi ddim yn meddwl bod y newyddion wedi ein taro ni eto. Dydy Ian na minnau yn gallu ei gredu. 

"Mae popeth yn teimlo mor swrreal. Does yna ddim gair arall i ddisgrifio'r hyn rydym ni'n brofi ar hyn o bryd."

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.