Beirniadaeth chwyrn o bolisïau addysg Cymru mewn adroddiad newydd
Mae adroddiad newydd wedi beirniadu polisïau addysg Cymru'n chwyrn, gan awgrymu na ddylid symud ymlaen gyda'r bwriad o newid arholiadau TGAU.
Dywed adroddiad sefydliad ariannol yr Institute for Fiscal Studies y dylai'r cwricwlwm newydd i Gymru roi mwy o bwyslais ar wybodaeth benodol.
Dylid gohirio diwygiadau i gymwysterau TGAU "er mwyn rhoi amser priodol i ystyried eu heffeithiau ar ganlyniadau hirdymor, llwyth gwaith athrawon ac anghydraddoldebau" medd awduron yr adroddiad.
Mae hefyd angen mwy o ddata ar lefelau sgiliau disgyblion a graddau'r anghydraddoldeb mewn cyrhaeddiad a dylid eu cyhoeddi'n rheolaidd yn ôl yr IFS:
"Gallai symud tuag at gardiau adrodd ysgol, ochr yn ochr ag arolygiadau ysgol presennol, fod yn ffordd effeithiol o ddarparu mwy o wybodaeth i rieni heb ddychwelyd i dablau cynghrair."
PISA
Wrth drafod y dirywiad mewn canlyniadau addysg yng Nghymru, dywed yr adroddiad: "Gostyngodd sgorau PISA fwy yng Nghymru nag yn y rhan fwyaf o wledydd eraill yn 2022, gyda sgorau’n gostwng tua 20 pwynt (sy’n cyfateb i tua 20% o wyriad safonol, sy’n ostyngiad mawr).
"Daeth hyn â sgoriau yng Nghymru i’w lefel isaf erioed, yn sylweddol is na’r cyfartaledd ar draws gwledydd yr OECD ac yn sylweddol is na’r rhai a welwyd ar draws gweddill y DU.
"Gwelodd yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd ostyngiadau yn sgorau PISA yn 2022, tra bod y sgorau yn gymharol sefydlog yn Lloegr.
"Ni ellir esbonio sgoriau is yng Nghymru gan lefelau uwch o dlodi. Gyda PISA, mae plant difreintiedig yn Lloegr yn sgorio tua 30 pwynt yn uwch, ar gyfartaledd, na phlant difreintiedig yng Nghymru.
"Mae hwn yn fwlch mawr ac yn cyfateb i tua 30% o wyriad safonol. Yn fwy rhyfeddol fyth, mae perfformiad plant difreintiedig yn Lloegr naill ai’n uwch neu’n debyg i’r cyfartaledd ar gyfer holl blant Cymru."
Adnoddau a gwariant
Dywed yr adroddiad hefyd fod y gwahaniaethau mewn perfformiad addysgol rhwng Cymru a Lloegr yn annhebygol o gael eu hesbonio gan wahaniaethau mewn adnoddau a gwariant.
"Mae gwariant fesul disgybl yn debyg yn y ddwy wlad, o ran lefelau presennol, toriadau diweddar a thueddiadau diweddar dros amser.
"Mae’r esboniad am berfformiad addysgol is yn llawer mwy tebygol o adlewyrchu gwahaniaethau hirsefydlog mewn polisi a dull gweithredu, megis lefelau is o atebolrwydd allanol a llai o ddefnydd o ddata."
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod canlyniadau PISA Cymru wedi dangos cynnydd cyn i bandemig coronafeirws daro, a bod manteision clir i newid trefn bresennol TGAU.
Pwysleisiodd y llywodraeth fod sgiliau bywyd ymysg y sgiliau fydd yn cael eu hybu dan y drefn newydd "ynghyd â ffocws o'r newydd ar y sgiliau hanfodol o lythrennedd a rhifedd".