Newyddion S4C

Pryder wedi chwe marwolaeth yng Ngharchar y Parc

20/03/2024
HMP Parc.png

Mae'r Ombwdsmon Carchardai'n dweud ei fod "yn bryderus iawn" wedi i chwech o ddynion farw mewn carchar yng Nghymru o fewn tair wythnos.

Bu farw John Rose a Jason Hussey yn ngharchar y Parc ger Pen-y-bont ar Ogwr ar Chwefror 27. Dydy'r pedwar dyn arall fu farw ddim wedi eu henwi hyd yma.

Dywedodd yr Ombwdsmon Carchardai Adrian Usher ei fod wedi lansio ymchwiliad i'r marwolaethau.

"Yn naturiol rwy'n bryderus iawn am y nifer o farwolaethau sydd wedi digwydd mewn cyfnod mor fyr, a rwy'n cynnig fy nghydymdeimlad dwysaf i deuluoedd a ffrindiau y rhai sydd wedi marw," meddai.

"Fodd bynnag, dydyn ni ddim yn cymryd unrhyw beth yn ganiataol, a rydyn ni'n cadw meddwl agored a oes yna unrhyw gysylltiad rhwng y marwolaehtau yma neu beidio.

Cwmni diogelwch preifat G4S sy'n gyfrifol am y carchar.

Mewn datganiad, dywedodd y cwmni:"Mae ein meddyliau gyda theuluoedd a chyfeillion y carcharorion sydd wedi marw'n ddiweddar yn Parc. Fel gyda phob marwolaeth yn y ddalfa, bydd yr Ombwdsmon Carchardai yn ycmhwilio."

Mae'r carchar wedi bod yn destun sgandal yn 2022, pan gafodd nyrs oedd yn gweithio yno ei charcharu am gael perthynas gyda charcharor.

Yn yr un flwyddyn, rhybuddiodd prif arolygydd carchardai fod yna "lefel uchel" o drais yn Parc - sydd yn dal 1700 o ddynion, a bod y nifer o achsoion o hunan-niwedio yn uwch nag mewn safleoedd eraill tebyg.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.