Perygl na fydd wyth miliwn o bobl yn cael pleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol
Mae 'na berygl na fydd hyd at wyth miliwn o bobl yn cael pleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf oherwydd "diffyg sylfaenol" yn y system o gofrestru pleidleiswyr.
Mae adroddiad gan bwyllgor trawsbleidiol o Aelodau Seneddol yn dweud bod y drefn "yn gwegian", a bod y problemau yn "fygythiad i hawliau pleidleiswyr Prydeinig."
Yn ôl y pwyllgor, mae rhai grwpiau penodol llawer llai tebygol o fod wedi cofrestru i bleidleisio. Mae rhai'n cynnwys pobl ifanc, pobl sy'n rhentu, a nifer o gefndir ethnig lleiafrifol neu difreintiedig.
Bellach, mae'n rhaid dangos rhyw fath o gerdyn adnabod gyda llun, fel pasbort neu trwydded yrru, cyn cael pleidleisio. Ond mae'r pwyllgor yn dweud fod angen caniatau mwy o fathau o gardiau adnabod sy'n dderbyniol.
Yn ogystal, mae nhw wedi galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno sustem cofrestru "opt-in" otomatig i wneud hi'n symlach i bobl gael pleidleisio.
Wrth roi tystiolaeth i'r pwyllgor, dywedodd y Comisiwn Etholiadol, "byddai tua 14% o'r boblogaeth sy'n gymwys ddim yn cael pleidleisio" petai Etholiad Cyffredinol yn cael ei gynnal heddiw.
Dywedodd Clive Betts A.S, cadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Ffyniant Bro a Chymunedau:"Rydym ni angen adolygiad sylweddol o'n trefniadau etholiadol er mwyn hybu cofrestru pleidleiswyr, a sicrhau bod ein etholiadau yn cael eu hystyried yn gredadwy a chyfreithlon.
"Mae'n ddiffyg sylfaenol yn ein sustem ddemocrataidd bod miliynau o bobl y DU yn wynebu peidio cael llais adeg etholiad."