Newyddion S4C

Cyngor i Brif Weinidog newydd Cymru Vaughan Gething

ITV Cymru 20/03/2024
Vaughan Gething

Mae Vaughan Gething, sydd bellach yn Brif Weinidog Cymru, wedi cymryd yr awenau gan Mark Drakeford ar ôl ei gyfnod o bum mlynedd wrth y llyw. 

Mae tîm Sharp End o ITV Cymru wedi bod yn siarad â chyn-brifweinidogion y wlad i glywed pa gyngor sydd ganddyn nhw ar gyfer Prif Weinidog nesaf Cymru. 

  • Cymryd ein cyngor 

"Gwrandewch ar bobl, ymgysylltwch â phawb," meddai Alun Michael, Prif Ysgrifennydd cyntaf Cymru (Prif Weinidog bellach).

Fe wnaeth e ychwanegu: "Byddwch yn glir am yr hyn yr ydych o’i blaid- beth yw eich blaenoriaethau? Am beth ydych chi yno mewn gwirionedd? Rhannwch hynny mor glir â phosib."

Image
Llun: Sharp End
Llun: Sharp End

"Ysbrydoli," yw cyngor y cyn-Brif Weinidog, Carwyn Jones. "Ysbrydolwch hyder, ysbrydolwch obaith a hyder yn eich barn."

Dywedodd gweddw y diweddar Rhodri Morgan, Julie Morgan AS: "peidiwch â chynhyrfu a gwnewch eich gorau. Mae'n gyfle gwych."

  • Paratoi ar gyfer cwestiynau gan aelodau meincwyr cefn profiadol

Mae’r Prif Weinidog oedd yn arwain Cymru drwy bandemig y coronafeirws sawl cyfnod clo, yn edrych ymlaen at gymryd ei sedd ar y meinciau cefn ac at “gael ychydig o ryddid”.

Dywedodd Mark Drakeford: “Dydw i ddim yn bwriadu bod yn rebel, ond rwy’n edrych ymlaen at gael cyfle i ddweud rhai pethau sydd ddim mor hawdd i’w dweud pan fyddwch chi’n cael eich cyfyngu gan y cyfrifoldebau sydd gennych chi fel Prif Weinidog.” 

  • Mae’n gallu bod yn unig ond peidiwch ynysu eich hunain

    Image
    Llun: Sharp End
    Llun: Sharp End

Dywedodd Mr Drakeford hefyd: “Mae yna eiliadau pan, wrth i chi gerdded tuag at gamera neu gerdded tuag at bodiwm, rydych chi'n meddwl, 'Fi yw hi felly, rydw i'n mynd i fod yn gwneud hyn' a gall hynny fod ychydig yn unig."

Fe wnaeth Carwyn Jones ychwanegu: “Mae’n rhaid i chi sicrhau nad ydych chi’n torri eich hun oddi wrth bobl eraill.”

  • Mae angen chwarae’r rhan, ond peidiwch â meddwl eich bod yn bwysicach nag eraill

“Mae rhaid i chi fod yn driw i’ch hun,” meddai Mr Jones. 

"Roedd Rhodri yn ddylanwad mawr arna i, ac roeddwn bob amser yn ei ystyried fel ffigwr tadol i mi mewn gwleidyddiaeth, ond mae'n rhaid i chi greu eich niche eich hun. I mi, roedd hyn yn ymwneud ag ysbrydoli hyder mewn pobl."

Image
Llun: Sharp End
Llun: Sharp End

Fe ychwanegodd Mr Jones: "Mae'n rhaid i chi chwarae’r rhan - gallwn siarad am sut na ddylai pobl bleidleisio dros bersonoliaethau, dros bolisïau, ond nid yw'n gweithio felly. Os nad ydych yn edrych yn dda, ni fydden nhw’n pleidleisio i chi - mae hynny'n bwysig."

Fe wnaeth Julie Morgan ddisgrifio sut roedd ei diweddar ŵr, Rhodri |Morgan “wir yn erbyn y syniad o statws”.

Dywedodd: “Roedd e’n teimlo [Rhodri Morgan] ei fod yn bwysig iawn nad yw gwleidyddion yn meddwl eu bod yn bwysig - eu bod yn cadw mewn cysylltiad â’r bobl.

"Lle bynnag roedd yn arfer mynd, roedd pobl yn dod i fyny ato a siarad ag ef ac roedd e’n hoffi fe! Nid oedd yn teimlo ei fod yn ymwthiol o gwbl."

Image
Llun: Sharp End
Llun: Sharp End
  • Rhowch cyfle i bobl eraill

Cyn un o’r sesiynau olaf o gwestiynau yn y Senedd, fe wnaeth Mr Drakeford fyfyrio ar ba mor anodd yw hi yng Nghymru i roi proffil i bobl eraill yn y Cabinet y tu hwnt i'r Prif weinidog.

Dywedodd: “Rwy’n cofio sgyrsiau gyda Rhodri lle’r oedd yn arfer dweud ei fod yn benderfynol iawn, yn enwedig gyda’r menywod oedd ganddo yn ei Gabinet, i ddod o hyd i ffordd iddyn nhw ddod yn fwy adnabyddus i bobl Cymru.

Image
Llun: Archif PA
Llun: Archif PA

Mewn arolwg barn gan ITV Cymru Wales, roedd 11% yn unig o bobl yn meddwl mai Vaughan Gething ddylai fod yn arweinydd Llywodraeth Cymru, o gymharu â 72% nad oedd yn gwybod pwy ddylai fod yn Brif Weinidog nesaf.

"Mewn rhai ffyrdd dwi ddim yn synnu," meddai Mr Drakeford. 

  • Gwybod pan mae'n amser mynd 

“Mae’n well i chi fynd cyn cael eich gwthio mas”- dyna beth roedd Rhodri Morgan yn arfer ei ddweud. 

Dywedodd ei weddw: “Roedd [Rhodri Morgan] yn meddwl mai’r peth gorau oedd rhoi cyfle i rywun arall ac rwy’n meddwl roedd e wedi gadael mewn ffordd gadarnhaol iawn.

"Rwy'n meddwl roedd e’n edrych ymlaen at beidio byth â gwisgo siwt neu dei eto. 

“Nid oedd e’n hoffi elfen ffurfiol ffigwr cyhoeddus a dweud y gwir ac roedd yn edrych ymlaen at amser pan allai fod allan yn yr ardd.”

Naw mis yn unig oedd amser Alun Michael wrth y llyw. 

Dywedodd: "Pan wnes i ymddiswyddo, ro’n i'n ei chael hi'n dipyn o sioc ac mewn gwirionedd mae'n eithaf braf cael cyfnod pan allwch chi fyfyrio a chymryd ychydig mwy o amser wrth feddwl am bethau."

Pan ddaeth Carwyn Jones yn Brif Weinidog yn 2009, dywedodd wrth ei hun na fyddai'n gwneud y swydd am fwy na 10 mlynedd.

Dywedodd: "Es i ar wyliau yn haf 2017 ac ro’n i'n gwybod bryd hynny fy mod i'n dechrau meddwl bod wyth mlynedd yn amser hir yn y swydd hon. Roedd rhai pobl yn gwybod, ond fe wnes i gyhoeddi fy mod yn mynd ym mis Ebrill 2018 yn y gynhadledd Blaid Lafur Gymreig.

"Wedyn, es i i’r dafarn gyda fy nhîm, eistedd i lawr, ac roedd fel petai pwysau wedi'u codi oddi ar fy ysgwyddau. Ro’n i'n gwybod bryd hynny mai dyna oedd y penderfyniad cywir."
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.