Newyddion S4C

Apêl i ddod o hyd i gartrefi i ffoaduriaid yn ardal Ceredigion

20/03/2024
Ffoaduriaid Wcráin - Llun DEC

Mae Cyngor Ceredigion wedi cyhoeddi apêl i geisio dod o hyd i berchnogion eiddo sy'n gallu helpu i adsefydlu ffoaduriaid yn y sir.

Mae'r Cyngor yn chwilio am bobl er mwyn rhoi lloches i deuluoedd sy'n ffoi o'u cartrefi oherwydd rhyfel yn eu gwledydd genedigol, fel Syria, Affganistan ac Wcráin.

Mae gan deuluoedd sydd â statws ffoaduriaid hawl i gael budd-daliadau i helpu gyda rhent fel unrhyw deulu arall yn y DU, ac mae Cyngor Ceredigion wedi cadarnhau eu bod yn cadw at gyfraddau'r lwfans tai lleol i sicrhau cydraddoldeb i bob teulu sy'n chwilio am lety yn y sir.

Mae dros 80 o deuluoedd o Wcráin a Syria; ynghyd â nifer fach o deuluoedd o Affganistan wedi dod o hyd i gartrefi newydd yng Ngheredigion ers 2015. 

Dywed llefarydd ar ran y cyngor fod "llawer o deuluoedd eisoes wedi integreiddio’n dda ac yn ymgolli mewn digwyddiadau cymunedol ac yn mynychu gwersi Cymraeg a Saesneg" yn yr ardal, gyda "phlant yn ymgartrefu'n gyflym ac yn cyfrannu at fywyd yr ysgol."

Mae'r cyngor wedi bod yn defnyddio cyllid sydd ar gael gan y Swyddfa Gartref a Llywodraeth Cymru i helpu plant ffoaduriaid i wneud ffrindiau drwy sesiynau gymnasteg, pasys canolfannau hamdden a gwersi cerddoriaeth, ac mae Tîm Adsefydlu Ffoaduriaid y Cyngor yn cynnal digwyddiadau chwarterol ar gyfer teuluoedd o Wcráin, Affganistan, a Syria a'u gwesteiwyr. 

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: "Mae Ceredigion wedi bod yn noddfa i deuluoedd sy'n ffoi rhag gwrthdaro ers 2015. 

"Ni allwn wneud hynny heb haelioni pobl Ceredigion sydd wedi bod yn croesawi pobl i'w cymunedau. Rydym yn arbennig o ddiolchgar i landlordiaid sydd wedi cysylltu â ni gyda chynigion o lety "ychwanegodd Mr Davies.

Mae'r Cyngor yn gwahodd perchnogion eiddo sydd eisiau gwybod mwy am sut i helpu'r ffoadruriaid i gysylltu â'r Tîm Adsefydlu Ffoaduriaid.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.