Newyddion S4C

Ffermwyr yng Nghymru'n 'pryderu am gynnydd mewn ymosodiadau cŵn dros y Pasg'

Ci yn edrych ar ddefaid

Mae ffermwyr yng Nghymru yn pryderu am gynnydd mewn ymosodiadau gan gŵn ar eu da byw dros gyfnod y Pasg yn ôl adroddiad newydd.

Yr adeg yma o'r flwyddyn ydy'r cyfnod mwyaf bregus i ŵyn newydd-anedig a defaid beichiog, ac mae NFU Mutual yn annog perchnogion cŵn i fod yn gyfrifol er mwyn atal ymosodiadau. 

Daw'r rhybudd wedi i werth tua £883,000 o anifeiliad fferm yng Nghymru gael eu hanafu neu eu lladd gan gŵn y llynedd yn ôl  y ffigyrau diweddaraf.

Fe gafodd dros 80 o ddefaid eu lladd mewn dau ymosodiad ar fferm Alun James yng ngorllewin Cymru yn ystod gwanwyn 2023. 

Mae Mr James yn credu mai ci o eiddo cyfagos oedd yn gyfrifol am y ddau ymosodiad. 

"Roedd yr ymosodiadau’n erchyll ac fe wnaeth ein hysgwyd. Fe welodd fy mam y ci yn ymosod ar ein defaid ac yn torri eu gyddfau drwy eu taflu nhw i'r awyr," meddai.

“Yn ogystal ag achosi dioddefaint erchyll, mae wedi ein gadael ni mewn sioc."

Fe wnaeth arolwg barn diweddar awgrymu bod mwy o berchnogion cŵn yn gadael eu hanifail oddi ar eu tennyn yng nghefn gwlad y llynedd nag yn 2022. 

Fe wnaeth bron i 8% o'r bobl gafodd eu holi gyfaddef bod eu cŵn yn rhedeg ar ôl da byw. Ond dywedodd 46% nad oedden nhw'n credu y gallai eu ci achosi marwolaeth neu anafu anifeiliaid fferm. 

Dywedodd Rheolwr NFU Mutual yng Nghymru, Owen Suckley: "Mae gwyliau'r Pasg yn gyfle gwych i brofi cefn gwlad Cymru, ond mae'n rhaid i bobl gofio fod yr ardaloedd gwledig yma yn ardaloedd allweddol i fywoliaeth ffermwyr ac yn gartref i filiynau o ddefaid ac ŵyn newydd-anedig.

"Mae'r tymor wyna yn mynd rhagddo ar draws y DU, ac mae ffermwyr yn ddealladwy yn pryderu y gallai cynnydd mewn cŵn allan o reolaeth achosi perygl i ŵyn newydd-anedig yn y caeau."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.