Newyddion S4C

Beirniadu penderfyniad cyngor i rwystro mynediad at ganolfan i ddringwyr ym Mlaenau Ffestiniog

20/03/2024

Beirniadu penderfyniad cyngor i rwystro mynediad at ganolfan i ddringwyr ym Mlaenau Ffestiniog

Os doedd neges y dringwyr yma ddim yn glir gynt wel, mae o bellach.

Cyngor Gwynedd, drwy'r ysgol leol sy'n berchen ar y safle yma ar gyrion y dref ond ag yntau'n wag ers wyth mlynedd fe gafodd criw lleol hawl i ddatblygu canolfan ddringo yno ddwy flynedd yn ôl, drwy drefniant â'r ysgol a hynny yn plesio'n fawr.

Ond er i'r ardal fod yn hen gyfarwydd â thywydd gwlyb doedd y ganolfan methu ymdopi.

"Bob tro 'dan ni'n mynd i Clwb Dringo Hongian hyn sy'n disgwyl ni.

"Mae'r to yn y toiledau merched yn gollwng ar hyd y mirrors, ar hyd y llawr."

Mae'r Cyngor yn dweud mai'r bwriad ydy blaenoriaethu anghenion yr ysgol leol i ddarparu addysg a chyfleoedd ac wrth iddynt sefydlu opsiynau i ddod â'r safle yn ôl i ddefnydd yr ysgol does dim bwriad parhau a'r trefniant prydles.

"O'n i'n arfer enjoio dod yma ar ddydd Mawrth.

"O'n i'n climbio fel clwb. I ddeud y gwir, oedd o'n vibes.

"Hongian Ffest bob blwyddyn hefyd.

"Oeddan ni'n joio dysgu mwy gan y bobl hŷn 'di bod yn climbio ers dipyn."

"'Dy o'm y lle sychaf yma.

"Pryd oeddan ni'm yn gallu mynd i climbio tu allan oeddan ni'n edrych ymlaen i allu dod tu mewn ac osgoi'r tywydd.

"Mae o jyst yn siomedig gweld y gwaith 'dan ni gyd 'di gwneud yma yn mynd i wast."

Gyda'r ymgyrch yn codi stêm mae'r Cyngor yn dweud nad yw'r safle bellach yn ddiogel ond galw am ateb hirdymor ac eglurder mae'r dringwyr.

"Does 'na jyst ddim cyfathrebu.

"Y cwbl 'dan ni angen ydy cyfathrebu. Jyst siarad.

"Does 'na mond dau fis ar ôl i'r gŵyl.

"Mae gynnon ni asedau werth miloedd yna.

"'Dan ni jyst rili yn gofyn yn garedig i Cyngor Gwynedd plis, dewch draw i Blaenau a gweld be ydy'r sefyllfa go iawn."

Y gwirfoddolwyr a phobl ifanc adeiladodd bob dim welwch chi yma ond â'r safle bellach dan glo, mae'r siom yn troi'n ddicter.

"Dw i'n andros o flin. Mae o'n cymryd y mick.

"Mae'r Cyngor yn deud bod nhw isio i Blaenau flourishio efo pobl ifanc ac wedyn, maen nhw isio gwneud hyn.

"Mae o'n completely contradictory i be maen nhw'n deud yn policies nhw."

Be oedd y lle yma'n rhoi i chi, fel pobl ifanc?

"Oedd o'n rhoi rhywle sych i ni gael mynd o'r strydoedd, oddi wrth yr alcohol ac y drygau ac i gael mynd mewn a gwneud be 'dan ni'n licio gwneud ac ehangu ein sgiliau.

"Oedd o'n rhywle oedd yn dod a'r cymuned climbio fewn ac oedd o'n dod â pres a busnesau lleol fyny yn Blaenau ac yn helpu ni, fel cymuned i adeiladu mwy i fyny."

"Fel dach chi'n gwybod, mae hi'n glawio dipyn yn Blaenau."

Jyst tipyn bach!

"Pryd mae hi fel hyn, 'dan ni'n mynd fewn i'r sied a 'dan ni'n defnyddio'r wal tu fewn."

Mae'r ganolfan fod yn gartref i ŵyl ddringo sydd wedi denu rhai cannoedd yma gynt ond mae hynny yn y fantol, yn ogystal â gwaith caled aelodau.

"Mae o'n siomedig uffernol.

"Mae pawb yn cwyno bod sa'm byd i wneud yn Blaenau.

"Mae'r plant a ni 'di gweithio'n galed i ddatblygu wal dringo tu fewn a 'dan ni'm yn cael iwsio fo mwy."

Mae Cyngor Gwynedd yn dweud nid cau y drws ar gydweithio ond ystyried opsiynau ar gyfer y dyfodol maen nhw ar hyn o bryd.

Y disgwyl yw y bydd arolwg yn cael ei gynnal o'r safle i benderfynu beth yn union yw'r cynllun hirdymor gan ddweud y gobaith ydy cydweithio yn y dyfodol ond a'r ymgyrch yma megis dechrau mae 'na frwydr ar y gweill i'r dringwyr o Flaenau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.