Newyddion S4C

Staff consortiwm addysg yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o 'achosi anhrefn'

21/03/2024
Arholiad TGAU

Mae staff consortiwm addysg yn y Gogledd wedi mynegi pryder ynglŷn â chynlluniau Llywodraeth Cymru i newid y drefn o gefnogi ysgolion, gan eu cyhuddo o "achosi anhrefn".

Mewn llythyr ar ran eu haelodau yng nghonsortiwm addysg GwE, mae undeb Prospect yn dweud eu bod yn "rhwystredig a siomedig" na fu ymgynghori cyn i'r Gweinidog Addysg Jeremy Miles gyhoeddi ei argymhellion.

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried dyfodol y pum consortiwm addysg yng Nghymru, sy'n gweithio'n rhanbarthol gydag awdurdodau lleol i ddarparu cymorth ac i wella safonau addysgol.

Mewn llythyr at gadeirydd cyd-bwyllgor GwE, mae'r undeb yn dweud: "Credwn, mewn gwirionedd, fod datganiad y Gweinidog wedi achosi anhrefn yn y system.

"Ar ôl i'w gwaith gael ei farnu'n gyhoeddus mae ein haelodau yn ansicr ynghylch eu dyfodol, ac mae'r diffyg gwybodaeth ar hyn o bryd yn gwneud hyn hyd yn oed yn waeth."

Mae undeb athrawon UCAC, sydd hefyd yn cynrychioli rhai aelodau o staff GwE, hefyd wedi mynegi pryder am y modd mae Llywodraeth Cymru yn delio â'r mater.

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried dyfodol y pum consortiwm, wedi adolygiad dan arweiniad yr Athro Dylan Jones.

Yn ei lythyr at y Gweinidog, dywedodd yr Athro Jones fod "ysgolion yn wynebu heriau sylweddol ac mae'n hanfodol bod y system gwella ysgolion yng Nghymru yn darparu'r seilwaith gorau a mwyaf cost-effeithiol".

Yn ôl yr adolygiad, roedd gan nifer o benaethiaid ysgolion "bryderon difrifol" am y "gwerth a ychwanegir" gan y consortia.

Ond mae Prospect wedi beirniadu sylwadau'r Athro Jones.

"Mae'r iaith a'r honiadau yn llythyr yr Athro Dylan Jones yn gryf, gan gyfeirio'n uniongyrchol at "bryderon ynghylch ansawdd y cymorth,” medde nhw.

" Mae hyn yn arfarniad uniongyrchol o berfformiad ein gweithlu yn GwE, ac nid yw'n un yr ydym yn ei dderbyn, nac yn credu y dylid bod wedi'i rannu'n gyhoeddus fel hyn."

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd "cyfnod o drafod" yr argymhellion, fydd yn parhau tan mis Awst.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.