Tenantiaid yng Nghymru'n gweld cynnydd mawr mewn rhenti
Mae tenantiaid yn nwy ddinas fwyaf Cymru wedi gweld cynnydd mawr yn eu rhenti dros y flwyddyn ddiwethaf.
Yn ôl ffigyrau swyddogol, mae rhenti yn Abertawe wedi cynyddu 13% yn ystod y 12 mis diwethaf, gyda thenantiaid yng Nghaerdydd wedi gweld eu biliau nhw'n codi 12.9% - codiadau sy'n sylweddol uwch na chwyddiant yn ystod yr un cyfnod.
Ar gyfartaledd, mae tenantiaid yng Nghymru yn talu 9% yn fwy mewn rhent ym mis Chwefror 2024 na roedden nhw flwyddyn yn ôl. Y cyfartaledd cenedlaethol ydy £723 y mis, o'i gymharu â £663 ym mis Chwefror 2023.
Y brifddinas ydy'r lle drytaf i rhentu tŷ, gyda'r bil misol ar gyfartaledd yn £998, o'i gymharu â £885 flwyddyn yn ôl.
Powys ydy'r rhataf, gyda rhent misol yno ar gyfartaledd yn £542.
Mae'r arolwg gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol yn dangos bod gostyngiad bychan wedi bod ym mhrisiau tai yng Nghymru yn ystod yr un cyfnod, lawr i £213,000 o £215,000 ym mis Chwefror 2023.