Marwolaeth dyn o Fôn wrth godi polyn yn ei ardd yn 'ddamwain' medd crwner
Fe gafodd taid 69 oed sioc drydannol farwol tra'n codi polyn baner 20 troedfedd o uchder yn ei ardd gefn ar Ynys Môn.
Daeth gwraig David Ian Roberts o hyd iddo'n farw yn eu cartref yn Llanfairpwll wedi iddi ddychwelyd yno ar 29 Mehefin y llynedd.
Clywodd cwest i'w farwolaeth yng Nghaernarfon ddydd Mercher fod y ddau wedi dychwelyd adref o wyliau yn yr Unol Daleithiau wythnos cyn y digwyddiad, ar ôl ymweld â dinasoedd Las Vegas ag Efrog Newydd.
Dywedodd ei weddw wrth y cwest fod gan Mr Roberts falchder yn ei ardd, a bod y polyn wedi ei brynu 18 mis ynghynt.
Ar y diwrnod dan sylw, dywedodd Mrs Roberts ei bod wedi dychwelyd adref am tua 19:20. Fe fyddai ei gŵr fel arfer wedi ei chroesawu wrth y drws.
"Fe wnes i sylwi fod Ian yn gorwedd gyda'i wyneb i lawr ar ein gwair," meddai wrth y cwest.
11,000 o foltiau
Dywedodd Andrew Churchman, rheolwr rhanbarthol gyda chwmni SP Energy Networks fod gwifren 11,000 o foltiau uwchben y lleoliad oedd yn darparu trydan i'r dref.
Roedd y wifren wedi bod yno pan gafodd y tŷ ei brynu.
Dywedodd y patholegydd Dr Mark Atkinson mai achos y farwolaeth oedd sioc drydannol "heb amheuaeth".
Fe wnaeth y Crwner Kate Robertson gofnodi marwolaeth o ganlyniad i ddamwain.
Ychwanegodd y Crwner fod y farwolaeth yn "gwbl drychinebus", gan rybuddio am beryglon ceblau trydanol.
"Rwyf yn siwr eich bod yn ei golli'n ofnadwy ac yn parhau i'w golli'n ofnadwy," meddai wrth ei deulu.