Cau rhai o siopau Greggs wedi 'problemau technegol'
Bu'n rhaid cau sawl cangen o Greggs fore dydd Mercher wedi i’r cwmni wynebu “problemau technegol” oedd yn atal rhai siopau rhag derbyn taliadau gan gwsmeriaid.
Cafodd siopau ar hyd a lled y DU eu heffeithio, gan gynnwys rhai yng Nghaernarfon, Caerdydd, Manceinion, Llundain a Glasgow.
Dywedodd llefarydd ar ran Greggs: “Rydym bellach wedi datrys y mater technegol a effeithiodd ar diliau yn rhai o’n siopau yn gynharach y bore yma.
“Mae mwyafrif y siopau sydd wedi eu heffeithio bellach yn gallu cymryd taliadau cerdyn ac arian parod eto ac rydym yn disgwyl i’r mater gael ei ddatrys yn llawn cyn bo hir.
“Rydym yn ymddiheuro am yr anghyfleustra y gallai hyn fod wedi’i achosi i’n cwsmeriaid.”
Roedd rhai siopau wedi medru gwerthu cynnyrch i’w cwsmeriaid drwy ap Greggs neu gan ddefnyddio arian parod.
Ond mae rhai cwsmeriaid wedi beirniadu’r cwmni ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddweud nad oedd modd prynu unrhyw fwyd o gwbl.
Mae gan Greggs fwy na 2,450 o siopau ledled y DU.