Newyddion S4C

'Hollol wirion': Cynghorydd yn cael ei atal rhag rhoi ei farn ar ysgol cyfrwng Cymraeg

21/03/2024
Cynghorydd Aled Davies

Cafodd cynghorydd ei atal rhag rhoi ei farn ar gynigion i drosglwyddo ysgol yn Llanfair Caereinion yn y Trallwng i ysgol cyfrwng Cymraeg, gan nad yw'n cynrychioli'r ardal.

Mewn cyfarfod o Gabinet Cyngor Sir Powys ddydd Mawrth, roedd cynghorwyr ar fin derbyn crynodeb o’r cynnig cyn mynd i bleidlais pan dorrodd arweinydd grŵp y Ceidwadwyr, y Cynghorydd Aled Davies, ar draws y cyfarfod.

Mae'r Cynghorydd Davies yn cynrychioli Llanrhaeadr ym Mochanant a Llansilin yng ngogledd Powys.

Mae ysgolion o'r ardal hon yn rhan o Bowys ac yn rhan o ddalgylch Llanfyllin.

Dywedodd y Cynghorydd Davies: “Gofynnais am gael siarad yn y cyfarfod hwn, ac nid wyf wedi cael fy ngalw.”

Yn absenoldeb arweinydd cyngor y Democratiaid Rhyddfrydol, y Cynghorydd James Gibson-Watt, cadeiriwyd cyfarfod y cabinet gan y Cynghorydd Llafur Matthew Dorrance.

Dywedodd y Cynghorydd Dorrance: “Nid ydych chi wedi cael eich galw Cynghorydd Davies gan i mi dderbyn y cais ychydig cyn y cyfarfod.

“Cymerais gyngor a dydych chi ddim yn aelod lleol dros yr ardal ac nid yw’r cyfansoddiad yn caniatáu i chi siarad.”

Herio

Heriodd y Cynghorydd Davies hyn a dadleuodd fod disgyblion o “fy rhan i o’r byd” sydd eisiau mynd i ysgol cyfrwng Cymraeg yn mynychu Ysgol Bro Caereinion.

Daeth y Cynghorydd Dorrance â phennaeth cyfreithiol a swyddog monitro’r cyngor i mewn, Clive Pinney i gynghori a ddylid caniatáu i'r Cynghorydd Davies siarad ai peidio.

Dywedodd Mr Pinney: “Nid chi yw’r aelod lleol dros yr ardal hon, nid yw’r cyfansoddiad yn caniatáu ichi siarad.”

Pwysleisiodd y Cynghorydd Davies fod plant o'i ardal yn cael eu haddysg yn Llanfair Caereinion.

Dywedodd Mr Pinney: “Gall effeithio ar ddisgyblion o’ch ardal, nid yw’n golygu mai chi yw’r aelod lleol a’r aelod lleol sy’n gallu siarad.”

Wrth ymateb, dywedodd Mr Davies fod cynghorydd o ward gyfagos, y Cynghorydd Bryn Davies o Blaid Cymru wedi cael siarad.

Tynnwyd sylw at y ffaith bod ward y Cynghorydd (Bryn) Davies yn cynnwys Dyffryn Banw, a bod disgyblion yn mynd o’r ardal hon i gael eu haddysgu yn Llanfair Caereinion.

Dywedodd y Cynghorydd Dorrance: “Efallai nad ydych yn hoffi dyfarniad y cadeirydd, ond mae gan y cadeirydd awdurdod yn y cyfarfod hwn.

“Rwyf wedi cymryd y cyngor, a fy ngwaith yw i gynnal y cyfansoddiad.

“Os yw aelodau’n anhapus gyda’r dyfarniad hwnnw, dwi’n meddwl y dylen nhw ofyn i’r cyfansoddiad gael ei adolygu gan y Gwasanaethau Democrataidd.”

Dywedodd y Cynghorydd Dorrance bod sylwadau gan aelodau lleol eisoes wedi'u clywed, bod y cynnig wedi'i drafod a'i fod yn mynd i ofyn i ddeilydd y portffolio addysg, y Cynghorydd Pete Roberts o'r Democratiaid Rhyddfrydol, i fwrw ymlaen â'r argymhelliad.

Dywedodd y Cynghorydd Davies: “Mae hyn yn hollol wirion.”

Yna dywedwyd wrth y Cynghorydd Davies am dawelu neu adael y cyfarfod.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.