Tywysoges Cymru: Staff wedi ceisio gweld ei chofnodion meddygol?
Mae ymchwiliad wedi dechrau yn dilyn honiadau bod staff wedi ceisio cael mynediad at gofnodion meddygol preifat Tywysoges Cymru.
Yn ôl The Mirror fe geisiodd o leiaf un aelod o staff The London Clinic gael mynediad at nodiadau Kate Middleton tra roedd hi'n glaf yn yr ysbyty preifat ym mis Ionawr.
Roedd y dywysoges wedi mynd i'r ysbyty am lawdriniaeth abdomenol ar 16 Ionawr.
Mae'r corff gwarchod preifatrwydd a diogelu data y DU wedi dweud ei fod wedi derbyn adroddiad bod amodau wedi eu torri.
Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) ddydd Mawrth: “Gallwn gadarnhau ein bod wedi derbyn adroddiad torri amodau a’n bod yn asesu’r wybodaeth a ddarparwyd.”
Mae Palas Kensington wedi dweud bod hwn yn "fater i’r London Clinic.”
Nid yw manylion iechyd Kate wedi ei ddatgelu ond mae Palas Kensington wedi dweud yn y gorffennol ei bod hi yn dymuno i’w gwybodaeth feddygol bersonol aros yn breifat.
Mewn datganiad i The Mirror, dywedodd The London Clinic: “Rydym yn credu’n gryf bod ein holl gleifion, beth bynnag yw eu statws cyhoeddus yn haeddu preifatrwydd a chyfrinachedd llwyr ynglŷn â’u gwybodaeth feddygol.”