Cyhoeddi enw dyn a fu farw ger clwb rygbi yng Nghaerdydd
Cyhoeddodd yr heddlu mai Stephen Bulpin o ardal y Tyllgoed yng Nghaerdydd oedd y dyn a fu farw ger Clwb Rygbi Llandaf yng Nghaerdydd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i lwybr ger y clwb tua 3.00, fore Llun, 18 Mawrth.
Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un a welodd Mr Bulpin rhwng prynhawn Sul ac oriau mân fore Llun i gysylltu â nhw.
Mae ei farwolaeth yn cael ei thrin fel un sydyn ac anesboniadwy ar hyn o bryd, ac mae archwiliad postmortem yn cael ei gynnal er mwyn ceisio darganfod achos ei farwolaeth.
Ychwanegodd yr heddlu eu bod mewn cyswllt â theulu Stephen Bulpin
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Bob Chambers, o Heddlu De Cymru: “Mae'r ardal yn dal wedi ei chau, a hoffem ddiolch i aelodau'r gymuned am eu cefnogaeth a dealltwriaeth wrth i ni barhau â'n hymchwiliad."
“Rydym yn apelio am wybodaeth, yn enwedig gan bobl a welodd Stephen neu a fu mewn cyswllt ag e rhwng 16.00 brynhawn Sul, 17 Mawrth, a 3.00 fore Llun, 18 Mawrth.
Cafodd ei weld yn ystod y cyfnod hynny yn ardal y Tyllgoed ac ar Stryd y Castell yng Nghaerdydd. Yna dychwelodd i'r Tyllgoed a'r gred yw iddo fynd oddi yno tua chyfeirad Llandaf.