Newyddion S4C

Beirniadu penderfyniad cyngor i rwystro mynediad at ganolfan i ddringwyr ym Mlaenau Ffestiniog

Newyddion S4C 19/03/2024

Beirniadu penderfyniad cyngor i rwystro mynediad at ganolfan i ddringwyr ym Mlaenau Ffestiniog

Mae penderfyniad Cyngor Gwynedd i rwystro mynediad at ganolfan ym Mlaenau Ffestiniog sy’n cael ei defnyddio gan ddringwyr ifanc lleol wedi ei feirniadu.

Gyda dŵr yn gollwng ac olion llygod yno, mae safle Cae Peips yn y dref bellach ar gau oherwydd pryder am ddiogelwch y safle. 

Yn ôl rhai o bobl ifanc yr ardal mae’n "warthus" nad yw Cyngor Gwynedd yn cefnogi eu hymdrech.

Dywedodd Cyngor Gwynedd bod y cytundeb i ddefnyddio’r safle wedi dod i ben a’u bod wedi comisiynu arolwg i asesu costau dod â’r safle yn nôl i ddefnydd yr ysgol leol. 

Roedd y safle ar gyrion y dre, sy’n berchen i’r cyngor drwy Ysgol y Moelwyn, wedi bod yn wag ers wyth mlynedd. 

Image
Blaenau

Drwy gytundeb â’r ysgol leol, mae criw o ddringwyr wedi creu ardal ddringo yno a oedd yn cael ei defnyddio yn wythnosol. 

Ond yn ôl y clwb, pan godwyd pryderon am ddiogelwch y safle gan ofyn am gymorth i’w drwsio, fe benderfynodd y cyngor i atal mynediad i’r safle a’u gadael heb gyfleusterau. 

Fe ddaw yr ergyd ddeufis cyn i Ŵyl Hongian, sef gŵyl ddringo, gael ei chynnal yno gyda rhyw 300 o ddringwyr yn bresennol y llynedd. 

Mae’r criw bellach wedi codi baner tu allan i’r safle i fynegi eu dicter.

"O'n i arfer joio yma ar ddydd Mawrth ac oedda ni'n cleimio fel clwb ac oedd o'n vibes ia", meddai Ioan sy’n 16.

“Oedd Hongian Fest bob blwyddyn ac oedda ni'n joio dysgu mwy gan y bobl hyn”.  

Image
IOAN, OWEN, EBAN, CIAN[
Yn ôl rhai o bobl ifanc yr ardal, mae hi’n warthus nad yw Cyngor Gwynedd yn cefnogi eu hymdrech.

Yn ol Eban sy’n 16, roedd yn gyfle i ddysgu sgiliau newydd. 

"Dio [Blaenau] ddim y lle sycha' so pryd doedda' ni methu cleimio tu allan, oedda ni’n edrych mlaen i neud tu mewn ac ma' jest yn siomedig ‘wan gweld y gwaith 'da ni di rhoi mewn yn mynd i wast".

'Andros o flin' 

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae nifer wedi bod yn gwarchod y safle gan arddio a gwella adnoddau y tu mewn, ac yn ôl Owen, 15 - mae’n ergyd enfawr. 

"Dwi'n andros o flin... ma’n cymryd y mic rili”

“Mae’r cyngor yn dweud bod nhw isho i Flaenau flurishio efo pobl ifanc a wedyn mae nhw’n gwneud hyn ac mae’n completely contradictory be ma nhw’n deud – ma’n ridiculous”.

“Da ni di bod yma cwpl o wicends yn helpu garddio ac yn dod yma i ddringo bob wsos – lot o amser di cael ei wastraffu ma’n teimlo fel.

“Blwyddyn ddiwethaf oedda na dros 300 yma [i ŵyl hongian] ma’n dod ag enw da i Flaenau oherwydd does gan y lle 'ma ddim.”

Un o’r hyfforddwyr ydy Rhys Roberts sy’n dweud fod ‘na ddiffyg egluder am ddyfodol hir dymor y safle.

“Be 'da ni angen ydi cyfathrebu, jest siarad... does m'ond dau fis nes daw’r ŵyl ac mae gynno ni filoedd o asedau a 'da ni’m yn cael mynd yna”, meddai.

“Da ni’n gofyn yn garedig i’r cyngor ... dewch draw ‘ma i Flaenau a gweld be 'di’r sefyllfa go iawn”.

Image
Connair Cann
Connair Cann

Mae Connair Cann sy’n gyfrifol am godi'r strwythurau tu mewn, yn dweud bod y ganolfan yn arfer bod yn hafan i bobl ifanc. 

“Mae pawb yn cwyno does na’m byd i neud yn Blaenau ac mae’r plant a ni wedi gweithio’n galed i ddatblygu wal ddringo tu mewn a 'da ni’m yn cael iwsio fo wan.

“Mae’r plant ‘di dysgu llwyth ond y cyfle wedi mynd wan. 

“Does nam byd yn Blaenau ril wan mae’r clybiau ieuenctid di cau so oedd hwn mor bwysig iddyn nhw.”

Un o’r rhai sydd wedi bod yn protestio yn erbyn y penderfyniad i gau y safle ydi Cian sy’n 17. 

“Odd o’n rhoi rhywle sych i ni fynd oddi ar y strydoedd rhag yr alcohol a’r dryga a neud be 'da ni licio neud - ehangu sgiliau mewn cymuned a siarad efo’n gilydd, cael hwyl a bod fel cymuned fawr.

“Ma’n meddwl lot i ni oherwydd 'da ni 'di rhoi amser gwaed a chwys mewn iddo a mae nhw’n cymryd o oddi wrtha ni.”

Image
BLAENAU 3

Asesu costau adfer 

Wrth ymateb i'r pryderon dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd fod ganddynt  “hanes hir o gydweithio gydag amrywiol grwpiau lleol er mwyn datblygu a chynnal adnoddau at ddefnydd cymuned.

“Yn yr achos hwn, mae’r cytundeb rhwng Ysgol y Moelwyn a Chlwb Dringo Hongian wedi dod i ben.

"Bydd arolwg yn cael ei gomisiynu ar Gae Eifion er mwyn asesu costau adfer y cae fel gall yr ysgol ei ddefnyddio ar gyfer addysgu plant yr ardal.

“Mae’r Cyngor a’r ysgol wedi bod mewn cyswllt ag arweinwyr y clwb ac yn deall siom a rhwystredigaeth yr aelodau. Pwysleisiwn nad ydym yn cau’r drws ar gydweithio gyda'r gymuned yn y dyfodol.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.