Aaron Taylor-Johnson ‘fydd y James Bond nesaf’
Mae adroddiadau mai Aaron Taylor-Johnson fydd yr actor nesaf i chwarae rhan yr ysbïwr ffuglennol James Bond.
Mae’r actor 33 o Swydd Buckingham eisoes wedi ymddangos yn y ffilm Kick-Ass ac wedi chwarae John Lennon yn Nowhere Boy.
Daw wedi i Daniel Craig, sy’n 56 oed, gamu o’r neilltu ar ôl pum ffilm a phymtheg mlynedd yn rôl yr ysbïwr a ymddangosodd yn gyntaf yn nofelau Ian Fleming.
Yn ôl papur newydd The Sun mae cwmni Eon Productions wedi cynnig y rhan i Aaron Taylor-Johnson.
Dywedodd y papur newydd fod disgwyl i’r ffilmio ddechrau yn Stiwdios Pinewood yn Swydd Buckingham eleni.
Roedd seren Man Of Steel, Henry Cavill, Damson Idris o Snowfall a Cosmo Jarvis o Lady Macbeth hefyd ymysg y sêr a oedd dan ystyriaeth.
Yr wythnos diwethaf fe gafodd Aaron Taylor-Johnson ei holi gan Numero Magazine am y posibilrwydd o chwarae James Bond. Fe wnaeth ymateb gan ddweud ei fod yn “ei gymryd fel canmoliaeth fawr” ei fod dan ystyriaeth.