Cynyddu oedran gwylio ffilmiau treisgar a rhywiol
Mae’n bosib y bydd oedran gwylio uwch yn cael ei osod ar ffilmiau treisgar a sy'n cynnwys golygfeydd rhywiol yn y dyfodol.
Yn ôl y corff sydd yn penderfynu pa oedran sydd yn addas i bobl wylio ffilmiau mae’r cyhoedd yn fwy pryderus am olygfeydd treisgar.
Fe ddangosodd yr ymchwil wnaeth y British Board of Film Classification (BBFC) bod pobl hefyd yn bryderus am noethni a golygfeydd rhywiol ar gyfer unigolion o dan 15 oed.
Mae’r cyhoedd eisiau agwedd “saffach” ar gyfer cynnwys felly meddai’r corff. Bydd ffilmiau fyddai wedi bod yn rhai gydag oedran 12 neu 12A gyda golygfeydd rhywiol nawr yn rhai ar gyfer pobl 15 oed yn y dyfodol.
Cafodd 12,000 o bobl ar draws Prydain eu holi i weld sut mae agweddau tuag at drais, defnydd o gyffuriau, rhyw ag iaith wedi newid. 2019 oedd y tro diwethaf i’r corff gynnal y math yma o ymchwil.
Yn ôl Llywydd BBFC, Natasha Kaplinsky mae canfyddiadau'r ymchwil yn ddiddorol.
“Ers i ni ofyn y tro diwethaf i bobl ar draws y wlad yr hyn roedden nhw yn meddwl o’r oedran roedden ni yn rhoi ar y ffilmiau, mae cymdeithas wedi newid ac mae barn pobl wedi dilyn y newid hwnnw," meddai.
" Mae’n ddiddorol iawn i weld sut mae’r ymchwil newydd yma yn adlewyrchu hynny.”