Newyddion S4C

Y Tŷ Gwyn yn cadarnhau marwolaeth uwch arweinydd Hamas

19/03/2024
Gaza

Mae uwch arweinydd Hamas, Marwan Issa, wedi marw mewn streic awyr gan Israel, yn ôl y Tŷ Gwyn.

Mr Issa yw’r arweinydd Hamas mwyaf blaenllaw i farw ers i’r rhyfel Israel-Gaza ddechrau ar 7 Hydref 2023.

Nid yw’r grŵp Palesteinaidd, sy’n rheoli Gaza, wedi gwneud sylw swyddogol ar adroddiadau am ei farwolaeth.

Bydd Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Antony Blinken, yn teithio i’r Dwyrain Canol yr wythnos hon.

Fe fydd yn cynnal cyfarfodydd yn Saudi Arabia a’r Aifft i drafod ymdrechion rhyngwladol i ddod i gytundeb cadoediad sy’n sicrhau rhyddhau’r gwystlon.

Yn ôl cyfryngau Israel, cafodd Mr Issa ei ladd mewn streic awyr gan Israel, a oedd wedi targedu rhwydwaith twneli o dan wersyll ffoaduriaid Nuseirat yn Gaza.

Yn ddirprwy bennaeth adain filwrol Hamas, Y Brigadau Izzedine al-Qassam, roedd Mr Issa yn cael ei ystyried yn un o dargedau mwyaf Israel.

Fe wnaeth yr Undeb Ewropeaidd roi Mr Issa ar eu rhestr du o derfysgwyr a’i gysylltu’n uniongyrchol ag ymosodiad 7 Hydref dan arweiniad y grŵp.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.