Newyddion S4C

Diwrnod olaf Mark Drakeford fel Prif Weinidog Cymru

19/03/2024
Mark Drakeford

Bydd cyfnod Mark Drakeford fel Prif Weinidog Cymru yn dod i ben yn swyddogol ddydd Mawrth.

Mae disgwyl i Vaughan Gething ddod yn brif weinidog nesaf Cymru ar ôl ennill etholiad ar gyfer arweinyddiaeth Llafur Cymru.

Fe gyhoeddwyd fore Sadwrn mai Mr Gething fydd yn olynu Mark Drakeford fel arweinydd eu plaid yng Nghymru, ac yn dod yn bumed Prif Weinidog ar Gymru dros yr wythnos nesaf.

Ar ei ddiwrnod olaf wrth y llyw bydd Mr Drakeford yn wynebu Cwestiynau'r Prif Weinidog am 13:30.

Fe fydd hefyd yn ysgrifennu at y Brenin Charles yn cyflwyno ei ymddiswyddiad fel Prif Weinidog Cymru.

Dydd Mercher fe fydd pleidlais yn Senedd Cymru gan yr aelodau ar benodi'r Prif Weinidog newydd.

Bydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi gan y Llywydd, Elin Jones ac fe fydd hi wedyn yn anfon llythyr at y Brenin, yn argymell y penodiad.

Unwaith y bydd y Llywydd wedi hysbysu Llywodraeth Cymru o gymeradwyaeth y Brenin, bydd y Prif Weinidog newydd yn cymryd y Llw Swyddogol.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.