Newyddion S4C

Murlun trawiadol gan yr artist stryd Banksy'n ymddangos ar wal yn Llundain

18/03/2024
Banksy PA

Mae'r artist anhysbys Banksy wedi cadarnhau mai fo sydd yn gyfrifol am furlun trawiadol sydd wedi ymddangos ar wal yn Llundain dros nos.

Fe wnaeth yr artist gadarnhau'r newyddion ar ei gyfrif Instagram ddydd Llun, yn dilyn dyfalu am bwy oedd yn gyfrifol am y gwaith sydd wedi arddangos ar wal ger Parc Finsbury.

Dywedodd trigolion lleol wrth asiantaeth newyddion PA eu bod yn "falch ag wrth eu bodd" o feddwl fod yr artist bydenwog wedi dewis eu stryd ar gyfer ei furlun diweddaraf.

"Mae'r lliwiau gwyrdd llachar yn cynrychioli Islington, sydd yn hyfryd, ac wrth gwrs Dydd Sant Padrig, sydd yn braf," meddai un.

Dywedodd Wanja Sellers, o Ffordd Hornsey sydd yn byw yn agos i'r murlun newydd: "Rydym mor falch ac wrth ein boddau bod Banksy wedi dewis ein ffordd a Parc Finsbury ar gyfer ei waith.

"Roedd dewis lliw ein bwrdeistref yn ei wneud iddo deimlo fel neges bersonol i ni drigolion. Rydym yn teimlo mor falch."

Paent gwyrdd

Mae paent gwyrdd llachar wedi ei wasgaru ar wal yr adeilad, o flaen coeden gyda'i changhennau wedi eu tocio - gyda'r paent yn rhoi'r argraff ei fod yn ddail i'r goeden.

Mae argraff o berson yn gafael mewn peipen ddŵr wedi ei baentio ar yr adeilad hefyd.

Daeth llawer o drigolion yr ardal i edrych ar y gwaith newydd fore ddydd Llun, gan ddyfalu am bwy oedd yn gyfrifol amdano.

Dywedodd Lidia Guerra, sydd hefyd yn byw yn lleol: "Y ffordd mae wedi ei greu, gyda'r paent yn tasgu i lawr, mae'n fy atgoffa i o goeden helyg, felly mae'n bosib bod neges am frwydr natur gyda'r goeden farw o'i flaen.

"Mae'n wych - pan wnaethon ni ddarllen amdano neithiwr, roeddym yn gwybod bod yn rhaid i ni ddod i'w weld mor fuan â phosib.

"Rydym yn teimlo mor falch ei fod wedi dewis ein stryd ni."

Ymddangosodd gwaith gan Banksy ar ddiwedd 2018 ar ochr garej yng nghymuned Taibach, Port Talbot - cyn iddo gael ei symud o'r dref yn 2022.

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.