Newyddion S4C

Cau ffwrneisi golosg Port Talbot wedi pryder am eu ‘sefydlogrwydd’

18/03/2024
Port Talbot

Mae cwmni Tata Steel wedi cyhoeddi y bydd eu ffwrneisi golosg ym Mhort Talbot yn cau ddydd Mercher oherwydd pryderon am eu “sefydlogrwydd gweithredol”.

Roedd y cwmni wedi bwriadu cau'r ffwrneisi golosg yn yr haf yn ogystal â ffwrnes chwyth rhif pump.

Dywedodd undebau ei fod yn ergyd ond fod pryderon am y ffwrnesi am beth amser. Gallai effeithio ar 200 o swyddi.

Mae’r ffwrneisi  yn cael eu defnyddio er mwyn creu golosg sydd yna’n cael ei ddefnyddio er mwyn tanio’r ffwrnesi chwyth sy’n creu dur.

Ond dywedodd Prif Weithredwr y cwmni Rajesh Nair bod ffwrnesi golosg wedi “dirywio” yn “sylweddol”.

“Yn ein trafodaethau diweddar gyda’n cydweithwyr yn yr undebau llafur, maen nhw wedi deall yr angen i roi’r gorau i weithrediadau yn ffwrneisi golosg Morfa ac un o’r ddwy ffwrnais chwyth yr haf hwn,” meddai.

“Mae perfformiad y ffwrneisi golosg wedi bod yn dirywio dros fisoedd lawer, er gwaethaf ymdrechion gan y timau yno. 

“Mae cyflwr y ffyrnau bellach wedi gwaethygu i lefel sy'n golygu ei fod yn anghynaladwy eu bod yn gweithredu’n barhaus.”

'Sgiliau'

Dywedodd yr Aelod Seneddol Llafur Jo Stevens, ysgrifennydd yr wrthblaid dros Gymru: “Mae hwn yn ddiwrnod anodd arall i’n diwydiant dur yng Nghymru oherwydd pryderon diogelwch dealladwy.

“Mae angen sicrwydd am ddyfodol y gweithwyr hynny y bydd yn effeithio arno.

“Bydd llywodraeth Lafur y DU yn buddsoddi yn ein diwydiant dur i sicrhau bod y newid i ddur gwyrdd yn cael ei hybu gan sgiliau, talent ac uchelgais gweithwyr dur Cymru.”

Daw’r newydd wrth i Tata Steel fwriadu torri bron i 2,000 o swyddi'r gwaith dur, gyda dros 300 o swyddi eraill yn diflannu yn y dyfodol.

Mae Tata yn bwriadu cynhyrchu dur mewn dull mwy llesol i'r amgylchedd. 

Oherwydd hynny, byddai angen llai o weithwyr ym Mhort Talbot, medden nhw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.