Gwaith llenwi tyllau mewn ffyrdd 'ar ei lefel uchaf ers wyth mlynedd'
Mae nifer y tyllau yn y ffyrdd sydd yn cael eu trwsio yng Nghymru a Lloegr ar ei uchaf ers wyth mlynedd, yn ôl adroddiad newydd.
Asphalt Industry Alliance (AIA) oedd yn gyfrifol am gynnal y gwaith ymchwil.
Fe wnaethon nhw ganfod bod disgwyl i awdurdodau lleol drwsio dwy filiwn o dyllau yn y ffyrdd yn y flwyddyn ariannol bresennol.
O gymharu â llynedd, mae hyn yn gynnydd o 43%, a'r nifer uchaf ers 2015/16 pan gafodd 2.2 miliwn o dyllau eu trwsio.
47% o'r ffyrdd yng Nghymru a Lloegr yn unig oedd mewn cyflwr da, gyda 17% yn wael, meddai'r adroddiad.
'Diffyg buddsoddiad'
Oherwydd costau cynyddol a chyfradd chwyddiant mae'r gost ar gyfer atgyweiriadau ffyrdd lleol wedi codi i £16.3 biliwn.
Yn ôl yr adroddiad mae hyn yn awgrymu nad oes gan awdurdodau lleol y cyllid i lenwi tyllau yn y ffyrdd mewn ffordd "sydd yn ymarferol o ran amser a chost."
Dywedodd cadeirydd AIA, Rick Green: “Mae gan awdurdodau lleol ychydig mwy o arian i’w wario eleni. Ond mae effaith costau cynyddol oherwydd chwyddiant yn golygu eu bod mewn gwirionedd wedi gallu gwneud llai gyda'r arian hwnnw.
“Ynghyd â hyn ac effeithiau’r tywydd eithafol rydyn ni’n ei wynebu’n gynyddol, y canlyniad yw bod y sefyllfa bron yn amhosib."
Ychwanegodd Llywydd yr AA, Edmund King, mai dyma oedd y flwyddyn waethaf ers pum mlynedd iddyn nhw gael galwadau oherwydd tyllau yn y ffyrdd.
“Fe allwch chi ddadlau mai’r rhwydwaith ffyrdd yw ased mwyaf cyngor lleol, ond nid oes digon o fuddsoddiad ac atgyweiriadau yn cael eu gwneud i wneud strydoedd yn fwy diogel a llyfn i yrwyr a beicwyr."