Putin yn ennill etholiad arlywyddol Rwsia am y pumed tymor
Putin yn ennill etholiad arlywyddol Rwsia am y pumed tymor
Mae Vladimir Putin wedi ennill yr etholiad arlywyddol yn Rwsia, a hynny am y pumed tro.
Dywedodd swyddogion yr etholiad fod Mr Putin wedi hawlio mwy na 87% o'r bleidlais.
Wedi'r canlyniad dywedodd yr arlywydd fod democratiaeth yn Rwsia yn fwy "trylwyr na llawer o wledydd yn y gorllewin".
Nid oedd unrhyw wrthwynebydd dylanwadol yn cael cystadlu yn erbyn Mr Putin.
Fe wnaeth cefnogwyr un o brif wrthwynebwyr Mr Putin, Alexei Navalny a fu farw yn y carchar ym mis Chwefror, brotestio yn erbyn y canlyniad.
Roedd Mr Navalny yn wyneb amlwg ar lwyfan gwleidyddol y wlad, ac yn cael ei adnabod fel un o feirniaid mwyaf Vladimir Putin.
Fe wnaeth nifer o wledydd gorllewinol gondemnio’r bleidlais, gan ddweud nad oedd yn rhydd nac yn deg.
Mynegodd sianeli teledu'r wlad, sy'n cael eu rheoli gan y wladwriaeth, eu balchder gyda'r canlyniad.
Dywedodd un gohebydd: "Mae hwn yn lefel anhygoel o gefnogaeth ac undod o gwmpas ffigwr Vladimir Putin...ac yn arwydd i wledydd gorllewinol."
Fe fydd Mr Putin yn arwain ei wlad o 146 miliwn o bobl tan 2030.