Cam yn nes at sicrhau statws rhyngwladol i dirwedd llechi Gwynedd
Mae cais i sicrhau statws Treftadaeth y Byd ar gyfer tirwedd llechi Gwynedd wedi cyrraedd y cam olaf cyn y bydd UNESCO yn gwneud penderfyniad terfynol ar y cais.
Bydd y cais nawr yn cael ei ystyried gan Gyngor Rhyngwladol ar Henebion a Safleoedd.
Yna, fe fydd UNESCO yn gwneud penderfyniad yn eu cyfarfod fis Gorffennaf.
Os bydd y cais yn llwyddiannus, fe fydd y dirwedd yn dod yn bedwerydd Safle Treftadaeth UNESCO yng Nghymru.
Mae'r cais yn cynnwys ardaloedd Dyffryn Ogwen, Dinorwig, Dyffryn Nantlle, Cwmystradllyn a Chwm Pennant, Ffestiniog a Phorthmadog, Abergynolwyn a Thywyn.
Mae'r cais yn brosiect ar y cyd rhwng Cyngor Gwynedd a chyrff sy'n cynnwys Parc Cenedlaethol Eryri, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Prifysgol Bangor, Llywodraeth Cymru, Cadw, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a'r Amgueddfa Genedlaethol.
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet dros Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd: “Mae enwebiad Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru yn ymwneud â dathlu a rhannu'r gorau o'r hyn sydd gan ein hardaloedd llechi i'w gynnig i'r byd, yn hanesyddol a hyd heddiw.
“Rydym yn hynod o falch fod yr holl waith caled sydd wedi bod ynghlwm â’r cais wedi cyrraedd y cam cyffrous yma yn y broses ac yn edrych ymlaen yn fawr at y penderfyniad terfynol yn fuan".
Ychwanegodd y Cynghorydd Thomas: “Mae’r cais yn gyfle pwysig iawn i ni ddathlu a chydnabod diwylliant, treftadaeth ac iaith unigryw ardaloedd y chwareli ac i ennyn balchder yng nghyfraniad yr ardal hon i ddynoliaeth a’r byd".
Llun: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru