Newyddion S4C

Protestiadau ar draws Ewrop ar ddiwrnod olaf pleidleisio yn Rwsia

17/03/2024
Yulia Navalnaya

Mae protestiadau wedi eu cynnal ar draws Ewrop ar ddiwrnod olaf etholiadau arlywyddol yn Rwsia.

Roedd gweddw Alexei Navalny wedi mynychu protest tu allan i lysgenhadaeth Rwsia yn Berlin yn Yr Almaen ddydd Sul. 

Bu farw Navalny, un o wrthwynebwyr gwleidyddol mwyaf yr Arlywydd Putin, mewn carchar yn y wlad fis diwethaf.

Nid oedd gan unrhyw ymgeisydd oedd yn rhan o'r wrthryfel yn Rwsia yr hawl i sefyll chwaith.

Mae Yulia Navalnaya wedi addo parhau gyda gwaith ei gŵr ac ymladd am Rwsia “sy’n rhydd”.

Mae pleidleisio wedi bod yn cymryd lle ar draws Rwsia ac mewn llysggenadaethau ar draws y byd i Rwsiaid tramor wrth i’r arlywydd Vladimir Putin geisio am bumed tymor yn y swydd.

Mae ail-ethol Putin, sy’n 71 oed yn cael ei ystyried yn anochel, gyda’r rhai sydd wedi ei wrthwynebu naill ai yn alltud, mewn carchar neu yn farw.

Roedd ciwiau hir wedi bod yn ffurfio tu allan i orsafoedd pleidleisio ar ôl i Yulia Navalnaya alw ar bobl Rwsia i sefyll mewn protest am hanner dydd.

Mae gan Rwsia 11 o ranbarthau amser gwahanol ac mae pleidleisio wedi bod yn cymryd lle mewn pedwar o ranbarthau yn Wcráin sydd o dan reolaeth Rwsia.

Gwelwyd nifer o ddigwydiadau o fandaliaeth mewn gorsafoedd pleidleisio yn ystod deuddydd cyntaf pleidleisio gyda nifer o bobl wedi eu harestio ar draws Rwsia.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.