Newyddion S4C

Rhybuddion llifogydd i rannau o Gymru

17/03/2024
Rhybudd llifogydd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi rhybuddion llifogydd ar gyfer sawl ardal yng Nghymru.

Roedd rhybuddion mewn lle yn ne, de orllewin, canolbarth a gogledd orllewin Cymru.

Daw hyn wrth i lefelau afonydd godi yn dilyn glaw trwm mewn rhannau nos Sadwrn.

Roedd rhybudd llifogydd coch, 'angen gweithredu ar frys' mewn grym ar gyfer afon Hydfron yn Llanddowror yn Sir Gâr ac afon Ritec yn Ninbych-y-pysgod.

Fe gyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru 24 rhybudd llifogydd 'byddwch yn barod' ar gyfer dalgylchoedd afonydd ar draws rhannau o Gymru.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod disgwyl llifogydd ar dir isel a ffyrdd yn yr ardaloedd hyn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.