Rhybudd melyn am law trwm i ddwyrain Cymru

Rhybudd tywydd

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law i sawl rhan o Gymru ddydd Gwener.

Fe ddaeth y rhybudd i rym am 05:00 fore Iau a bellach mae wedi ei ymestyn tan 21:00 nos Wener.

Ardaloedd yn ne Cymru fydd yn cael eu heffeithio gan y tywydd garw yn bennaf, gyda pheryg y gallai’r glaw trwm achosi llifogydd mewn rhai llefydd. 

Bydd cawodydd trwm trwy gydol y dydd yn golygu y gallai oedi ar y ffyrdd ac i drafnidiaeth gyhoeddus fod yn debygol.

Mae’n bosib y gallai rhai cartrefi a busnesau golli cyflenwadau trydan am gyfnod neu ddioddef llifogydd, rhybuddiodd y Swyddfa Dywydd. 

Mae disgwyl i 20-30mm o law gwympo yn y rhan fwyaf o lefydd o fewn ardal y rhybudd, gyda hyd at 50mm o law mewn mannau eraill. 

Fe fydd y rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:

  • Blaenau Gwent
  • Caerffili
  • Merthyr Tudful
  • Powys
  • Rhondda Cynon Taf
  • Sir Ddinbych
  • Sir Fynwy
  • Sir Y Fflint
  • Torfaen
  • Wrecsam

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.