‘Ionawr gwlyb’ er budd elusennau i ddyn o’r Fenni

ITV Cymru
Gavin Trinder

Mae mis Ionawr yn gyfnod o orffwys a chadw draw o alcohol i lawer ar ôl dathliadau’r Nadolig, ond nid i un dyn o’r Fenni.

Fe aeth Gavin Trinder o’r Fenni yn groes i’r 'Ionawr sych’, sef peidio yfed alcohol trwy gydol y mis, ac yn lle hynny fe wnaeth ymweld â 31 tafarn wahanol - un am bob diwrnod o’r mis. 

Penderfynodd wneud hyn fel rhan o ymgyrch i godi arian ar gyfer dwy elusen - MIND, a Motor Neurone Disease (MND) mewn ymgais i gefnogi cyfaill agos i’w deulu.

“Nes i ddewis MND am ein bod ni’n gweld y newid maen nhw'n neud," meddai.

Anelodd Gavin at godi £200 yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae’r swm yn agosach at £1,000.

Fe wnaeth ymdrech i i alw heibio tafarndai lleol i ddathlu'r sector lletygarwch yn ei ran o o Sir Fynwy.

Image
Gavin Trinder
Yfodd Gavin tua 100 peint ar draws Sir Fynwy

Ysbrydoliaeth yr ymgyrch

Wrth i bobl eraill wynebu ‘Ionawr sych’, esboniodd Gavin nad oedd yn teimlo gwahaniaeth yn ei iechyd ar ôl peidio yfed am fis, ac felly fe awgrymodd ei fod yn troi’r sialens ben i waered fel jôc.

“Ar y dechrau roedd bach o backlash oherwydd es ï Wetherspoons lleol, ac roedd pobl yn teimlo fy mod i ddim wir yn cynrychioli tafarndai lleol.” 

Derbyniodd nifer o wahoddiadau gan berchnogion i ddod i’w tafarndai, ac fe dyfodd yr ymgyrch yn un am godi arian a chodi ymwybyddiaeth o'r elusennau yn hytrach nag am yfed.

“Rydw i a fy ffrindiau wastad allan, nid ond i yfed ond i gymdeithasu. Hyd yn oed os yw pobl yn yfed soft drinks, mae gwerth gadael y tŷ i gwrdd â phobl newydd”.

Cafodd y cyfle i drafod pa mor anodd yw cadw tafarn wrth siarad gyda pherchnogion rhai o dafardndai ei ardal.

“Roedd yn fewnwelediad mewn i ba mor anodd yw e i redeg tafarn yn y gymdeithas heddiw.

“Nes i gwrdd â phobl wych a chael sgyrsiau byswn i byth wedi eu cael fel arall.”

Image
Gavin Trinder

Disgrifiodd Gavin ei hun fel "social butterfly", gan ddweud ei fod wedi cael llawer o hwyl yn ystod ei her.

Diolchodd i'w ffrindiau wnaeth ymuno ag o yn y tafarndai gan ychwanegu fod treulio amser mewn tafarn yn "rhyddhad iddo."

“Nes i rili mwynhau fy hun.. Mae’n neis bod mewn amgylchedd hamddenol."

Mae nawr yn bwriadu cymryd saib o yfed am gyfnod.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.