Cymru Premier JD: Cei Connah yn croesawu'r Cofis

Sgorio
CPD Caernarfon

Yn dilyn saib ar gyfer rownd wyth olaf Cwpan Cymru JD, bydd y sylw’n troi’n ôl at y gynghrair y penwythnos hwn.

Bydd Caernarfon a’r Fflint yn llawn hyder ar ôl sicrhau eu lle yn rownd gynderfynol Cwpan Cymru gyda buddugoliaethau yn erbyn Bae Colwyn a Bae Trearddur.

Dinas Bangor 1876 ac Y Rhyl 1879 yw’r ddau glwb arall sydd wedi cyrraedd y pedwar olaf, a bydd y gemau’n cael eu dethol ar gyfer y rownd gynderfynol ar nos Lun, 9 Chwefror.

Yn ôl at y gynghrair, ac mae’r Seintiau Newydd wyth pwynt yn glir ar frig y tabl gyda naw gêm ar ôl i’w chwarae.

Mae Cei Connah naw pwynt uwchben Pen-y-bont yn y ras am yr ail safle, tra bod pethau’n llawer tynnach yn y Chwech Isaf.

Pum pwynt yn unig sy’n gwahanu’r pum clwb rhwng y 7fed a’r 11eg safle, sy’n golygu y bydd y clybiau rheiny i gyd yn llygadu eu lle yn y gemau ail gyfle.

Ac ar waelod y domen mae pethau’n edrych yn ddu ar Lanelli sydd ond wedi cipio un pwynt o’u 13 gêm gynghrair ddiwethaf.

Y Chwech Uchaf

Cei Connah (2il) v Caernarfon (4ydd) | Nos Wener – 19:45

Eleni, bydd y clwb sy’n gorffen yn 2il yn camu’n syth i Ewrop, ac mae Cei Connah yn edrych yn gyfforddus yn y safle hwnnw yn dilyn rhediad rhyfeddol o 15 gêm gynghrair heb golli (ennill 11, cyfartal 4).

Mae Caernarfon 13 o bwyntiau y tu ôl i’r Nomadiaid, ac felly canolbwyntio ar y gemau ail gyfle fydd y nod i’r Cofis, ond bydd Richard Davies yn gobeithio y gall ei garfan sicrhau lle’n Ewrop cyn hynny, drwy godi Cwpan Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes.

Ar ôl trechu Bae Colwyn o 4-1 yn rownd yr wyth olaf, Caernarfon yw’r ffefrynnau i godi’r cwpan eleni gan mai nhw yw’r unig glwb o’r Chwech Uchaf ar ôl yn y gystadleuaeth.

Dyw Caernarfon m’ond wedi colli un o’u saith gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth (ennill 3, cyfartal 3), ac ar ôl arwyddo Adrian Cieslewicz o’r Seintiau Newydd yr wythnos yma, bydd y Cofis yn ffyddiog o orffen y tymor yn gryf.

Mae Cieslewicz yn ymuno â sawl chwaraewr arall yng ngharfan Caernarfon sydd â phrofiad o chwarae gyda’r Seintiau Newydd (Brad Young, Sion Bradley, Zack Clarke, Josh Lock, Daniel Gosset, Connor Roberts).

Dyw’r Caneris m’ond wedi colli un o’u saith gêm ddiwethaf yn erbyn Cei Connah (ennill 3, cyfartal 3), ac roedd y Nomadiaid wedi ennill wyth gêm gynghrair yn olynol cyn i Caernarfon ddod â’r rhediad hwnnw i ben fis diwethaf (Cfon 2-2 Cei).

Record cynghrair diweddar:

Cei Connah: ✅✅✅➖➖

Caernarfon: ͏➖❌✅➖➖

Y Chwech Isaf

Llansawel (8fed) v Hwlffordd (9fed) | Nos Wener – 19:45

Dim ond un pwynt sy’n gwahanu Met Caerdydd, Llansawel a Hwlffordd yn y ras am y 7fed safle, ac felly mae hon yn frwydr arwyddocaol ar frig y Chwech Isaf.

Wedi dweud hynny, dyw Hwlffordd ond bedwar pwynt uwchben safleoedd y cwymp a bydd yr Adar Gleision eisiau codi’n glir o’r ddau isaf nos Wener.

Mae Llansawel yn mwynhau eu cyfnod gorau erioed yn yr uwch gynghrair ar ôl ennill tair gêm yn olynol am y tro cyntaf (vs Hwlffordd, Y Barri a Llanelli).

Dyw Llansawel m’ond wedi colli dwy o’u naw gêm ddiwethaf (vs YSN a Chei Connah), ac ar ôl gorffen yn 10fed y tymor diwethaf, bydd Andy Dyer yn gobeithio gwella ar hynny a chystadlu am y 7fed safle eleni.

Mae prif flaenwr y ddau glwb yn mwynhau tymor safonol gyda Thomas Walters a Ben Ahmun wedi cyfrannu at 15 o goliau yr un yn y gynghrair – Thomas Walters (sgorio 8, creu 7 i Lansawel), Ben Ahmun (sgorio 9, creu 6 i Hwlffordd).

Record cynghrair diweddar:

Llansawel: ͏❌➖✅✅✅

Hwlffordd: ➖✅➖❌✅

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.