Cau traffordd yn y de yn dilyn marwolaeth dyn
16/03/2024
Bu’n rhaid cau traffordd yr M48 yn ne ddwyrain Cymru am rai oriau ddydd Sadwrn ar ôl i ddyn farw mewn gwrthdrawiad.
Bu’n rhaid cau’r draffordd o gyffordd 2 hyd at gyffordd 23 ar yr M4.
Dywedodd Heddlu Gwent fod dyn 77 oed o Gas-gwent wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad.
Ychwanegodd y llu: “Cafodd swyddogion eu galw yn dilyn y gwrthdrawiad oedd yn ymwneud â fan transit gwyn a bu farw yno. Mae ei deulu wedi cael gwybod."
Mae’r heddlu wedi gofyn I unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu gyda chyfeirnod 2400087603.
Llun: Traffig Cymru