Newyddion S4C

Vaughan Gething yn addo 'parhau i ddysgu Cymraeg'

Vaughan Gething yn addo 'parhau i ddysgu Cymraeg'

Mae arweinydd newydd Llafur Cymru wedi addo ei fod am barhau i ddysgu Cymraeg, er i'r ymgyrch arweinyddol ddiweddar fynd ar draws ei wersi.

Vaughan Gething yw'r Prif Weinidog cyntaf ar Gymru, nad yw'n siaradwr Cymraeg rhugl.

Mewn cyfweliad arbennig â Newyddion S4C ddydd Sadwrn dywedodd ei fod wedi ymrwymo i ddysgu'r iaith.

"Dwi'n edrych ymlaen at barhau i fod yn ddysgwr yn y swydd fel Prif Weinidog, ac i fod yn weledol yn defnyddio mwy o'r iaith, a dwi'n gobeithio y bydd hynny yn neges bositif i ddyfodol yr iaith. Eich bod yn gallu defnyddio'r iaith unrhyw oed ac mewn unrhyw swydd, ac ym mhob rhan o'ch bywyd." meddai Mr Gething.

"Mae'r ymgyrch wedi mynd ar draws y gwersi dysgu Cymraeg, Rwyf wedi defnyddio mwy o Gymraeg yn gyhoeddus ar hyd yr ymgyrch, ond dwi'n edrych ymlaen at gael mynd yn ôl i'r gwersi a chael ffordd ymarferol o ddefnyddio'r hyn dwi'n dysgu." ychwanegodd.

Fe aeth Mr Gething ymlaen i ddweud fod aelodau eraill o'r teulu hefyd yn dysgu Cymraeg.

"Dwi hefyd yn edrych ymlaen at gael y cyfle i wneud hynny [siarad Cymraeg] gyda fy mab sy'n dysgu Cymraeg drwy'r ysgol, ac mae o bryd i'w gilydd yn gallu fy helpu, Mae 'na rannau o fywyd lle mae o'n gwybod mwy o eiriau Cymraeg nag ydw i, sydd yn wych."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.