Newyddion S4C

Y Llwy bren i Gymru yn y Chwe Gwlad

16/03/2024
Cymru v Yr Eidal

Mae Cymru wedi gorffen ar waelod tabl y Chwe Gwlad yn dilyn colli yn erbyn Yr Eidal yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn o 21-24.

Mae hyn yn golygu fod Cymru wedi colli pob un o'u pum gêm yn y bencampwriaeth eleni gan hawlio'r llwy bren am y tro cyntaf ers 2003.

Hon oedd gêm olaf George North yn nghrys Cymru ac roedd yr emosiwn yn amlwg wrth iddo golli deigryn tra'n canu’r anthem cyn y gêm.

Ond Yr Eidal gafodd y gorau o’r chwarae agoriadol wrth i Gymru wneud camsyniadau o dan bwysau a chwarae rhydd yr ymwelwyr.

Fe giciodd y maswr Paulo Garbisi ddwy gôl gosb cyn i’r asgellwr Monty Ioane ddrysu amddiffynwyr Cymru i groesi am gais ar ôl 19 munud.

Yr unig symudiad o bwys gan Gymru oedd bylchiad y mewnwr Tomos Williams gyda George North yn gwneud rhediad grymus cyn i Josh Adams gael ei gosbi am ddal ei afael ar y bêl

Roedd camsyniadau yn britho chwarae Cymru yn enwedig pan darodd y cefnwr Cameron Winnett a’r maswr sam Costelow i mewn i’w gilydd o dan y bêl uchel yn 22 Cymru.

Daeth cyfle i Gymru ym munudau ola’r hanner ond fe darodd y canolwr Nick Tompkins y bêl ymlaen yn 22 Yr Eidal.

Yn sicr Yr Eidal gafodd y gorau o’r hanner cyntaf gyda Chymru ar ei hôl hi o 0-11 ar yr egwyl.

Hanner enfawr

Roedd 40 munud enfawr yn wynebu chwaraewtr Cymru wrth iddyn nhw ddod i'r cae ar ddechrau'r ail hanner.

Ond wrth i Gymru gwrso'r gêm fe sgoriodd Yr Eidal ail gais gan y cefnwr Lorenzo Pani a'r maswr Garbisi yn trosi. Cymru 0 - 18 Yr Eidal a phethau'n tywyllu dan do Stadiwm Principality.

Roedd panig nawr yn chwarae Cymru gan barhau i gam drafod a rhoi'r fantais yn ôl i'r Azzurri.

Gyda'r amser ar drai i Gymru fedri wirdroi'r gêm roedd Yr Eidal yn dal i reoli'r chwarae yn gyffyrddus wrth i'r gêm fynd i'r chwarter olaf.

Fe gododd y dorf ar eu traed ar ôl 61 munud gyda gwaith arweiniol da gan George North, Rio Dyer yn brasgamu trwy'r amddiffyn a'r mewnwr Tomos Williams yn gweld y llinell gais ond roedd taclo'r Eidal yn arbennig gan lwyddo i glirio yn ogystal.

Fe ddaeth llygedyn bach o obaith i Gymru ar ôl 64 munud gyda'r bachwr Elliot Dee yn croesi am gais o dan bentwr o flaenwyr a'r Costellow yn trosi. Cymru 7-11 Yr Eidal gyda 16 munud yn weddill.

Fe ddiffoddwyd unrhyw obaith oedd gan Gymru gyda dwy gic gosb ychwanegol i'r Eidal i Garbisi a'r eilydd Page-Relo ar ôl 70 a 73 o funudau. Cymru 7-24 Yr Eidal.

Fe ddaeth cais cysur i Gymru gan yr eilydd Will Rowlands yn y munudau olaf gyda Ioan Lloyd yn trosi. Cymru 14-21 Yr Eidal.

Bu'n rhai i George North adael y cae gydag anaf gyda'r hynny o'r dorf 72,000 oedd ar ôl yn codi ar eu traed i'w gymeradwyo.

Fe groesodd Mason Grady am gais arall hwyr iawn i Gymru gyda Lloyd yn trosi eto am bwynt bonws am i Gymru.

Dyma'r eildro o'r bron i'r Eidal ennill yng Nghaerdydd.

Y sgôr terfynol: Cymru 21 - 24 Yr Eidal.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.