'Byddwn yn falch i weithio efo chi i gael gwared ar y 20mya' - Yr ymateb gwleidyddol i Vaughan Gething
Mae gwleidyddion o bob plaid ar draws y wlad wedi bod yn ymateb i gyhoeddiad Llafur Cymru, mai Vaughan Gething yw eu harweinydd newydd, ac yn olynu Mark Drakeford fel Prif Weinidog Cymru.
Mae Arweinydd y Blaid Geidwadol yng Nghymru, Andrew RT Davies wedi cyflwyno cynnig i Mr Gething yn syth wedi'r cyhoeddiad.
Dywedodd: âByddwn yn falch i weithio gyda chi i gael gwared ar y 20mya, newid y cynllun amaethyddol cynaladwy a gwneud yn siwr nad oes rhagor o wleidyddion yn dod i Fae Caerdydd a buddsoddi yr arian hynny yn y gwasanaeth iechyd.â
Tra fod Arweinydd Plaid Lafur y DU, Keir Starmer wedi dweud: "Fe fydd ei apwyntiad fel Prif Weinidog Cymru, yr arweinydd du cyntaf yn y DU yn foment hanesyddol syân dweud gymaint am ddatblygiad a gwerthoedd y Gymru gyfoes.â
"Ar ran yr holl Blaid Lafur yn y DU rydym yn edrych ymlaen at ymgyrchu gyda Vaughan yn y pennod newydd yma i Gymru ac i gyflwyno llywodraethau Lafur ar draws Prydain."
'Testun pryder'
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, ei fod yn destun pryder mawr fod âgennym bellach Brif Weinidog newydd sydd cyn hyd yn oed yn cymryd y swydd gyhoeddus uchaf yn wynebu honiadau a chwestiynau difrifol am ei grebwyllâ.
Ychwanegodd fod âdim a ddywedwydâ yn ystod yr ymgyrch arweinyddiaeth yn awgrymu ânewid gĂŞrâ wrth fynd iâr afael â heriau economi Gymreig syân aros yn ei unfan, amseroedd aros y GIG a thlodi plant.â
Dywedodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru Jane Dodds: âMae hyn yn ddechrau beiddgar i ni gyd, un fydd naill aiân llwyddo neu dorri dyfodol y wlad hon.
"Mae angen i ni weld ffordd arall i ddelio gydaâr materion syân wynebu ein cenedl ac nid yr un rhai a gymerwyd rhag rhagflaenwyr Mr Gething."

