Newyddion S4C

Cymorth dyngarol yn cyrraedd Gaza ar gwch am y tro cyntaf

16/03/2024
Bwyd i Gaza

Mae cwch sy’n cario cymorth dyngarol wedi cyrraedd Gaza fore dydd Sadwrn.

Roedd 200 tunnell o fwyd ar y cwch ar gyfer trigolion Gaza sydd yn ôl y Cenhedloedd Unedig ar drothwy newyn.

Fe gyrhaeddodd y cwch o Sbaen Open Arms fore dydd Sadwrn ac fe ddadlwythwyd y bwyd oedd yn arwyddocaol yn ystod Ramadan. 

Roedd swyddogion Israel wedi gwirio’r cynnwys cyn i'r cwch adael o borthladd yng Nghyprus.

Mae hyn yn nodi cychwyn prawf i weld a ydy’r ffordd forol yn fwy effeithiol nag anfon cymorth drwy’r awyr neu ar hyd y tir.

Mae asiantaethau dyngarol wedi rhybuddio nad oes unrhyw ddull o ddanfon bwyd yn fwy effeithiol na dros y tir gan ddweud taw dim ond cyfran fach o’r hyn sydd angen ar y bobl yn Gaza sy’n llwyddo i’w cyrraedd oherwydd cyfyngiadau Israel.

Llun: Wochit gan fyddin Israel

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.