Newyddion S4C

Toriadau’r Cyngor Llyfrau: Peryg i awduron Cymraeg droi at y Saesneg

Newyddion S4C 15/03/2024

Toriadau’r Cyngor Llyfrau: Peryg i awduron Cymraeg droi at y Saesneg

Mae peryg i awduron sy’n ysgrifennu yn Gymraeg orfod troi at y Saesneg er mwyn cael llyfrau wedi eu comisiynu yn y dyfodol meddai pennaeth Cyngor Llyfrau Cymru.

Mae’n argyfwng i’r sector cyhoeddi yng Nghymru meddai Helgard Kraus sy’n dweud hynny wrth wynebu toriad ariannol o tua £450,000. 

Mae’r cyngor wedi penderfynu gwarchod swyddi, a llyfrau craidd, poblogaidd - ond mae hi’n poeni na fydd modd cefnogi awduron newydd i’r dyfodol.

“Os da chi’n cyfuno hwn gyda’r cost of living crisis, mae’n storm berffaith,” meddai.

“Ar y cyfan ma’ llyfrau Cymraeg dim ond yn bodoli os da ni’n cefnogi.

“So mae unrhyw doriad aton ni, at ein diwydiant, yn arwain at lai o lyfrau.

“Os yw llai o lyfrau yn cael eu comisiynu, mae pob awdur yng Nghymru yn ddwyieithog, falle byddwn nhw’n troi at ysgrifennu yn Saesneg a mynd gyda gwasg mawr yn Llundain.”

Image
Lefi Gruffudd
Lefi Gruffudd, Pennaeth Golygyddol y Lolfa

‘Risg’

Mi fydd effaith y torri yn “fawr ac yn boenus” oedd ymateb Gwasg y Lolfa.

“Mae 'na rei pethau da ni’n falch bod y Cyngor Llyfrau wedi gwarchod,” meddai Lefi Gruffudd, Pennaeth Golygyddol y Lolfa.

“Ond mae’n dal i fod yn wirioneddol ofidus i lyfrau Cymraeg.

“Mae’n golygu colli llyfrau unigol a cholli arian i awduron.”

Dywedodd Manon Steffan Ros nad oedd awduron newydd yn mynd i fod efo’r un gefnogaeth.

“Mae’n risg i unrhyw gyhoeddwr gyhoeddi awdur newydd sbon,” meddai.

“Tasai’r Lolfa a’r Cyngor Llyfrau ddim wedi cymryd y risg ar ryw lyfr ffantasi o’n i isio sgwennu pan o’n i ryw ugain oed, fysa Llyfr Glas Nebo ddim wedi bodoli.”

Wrth ymateb dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n "cydnabod pa mor bwysig yw Cyngor Llyfrau Cymru i'r sector cyhoeddi yng Nghymru".

"Rydyn ni'n parhau i weithio'n agos i ymateb i heriau a chyfeloedd i gefnogi'r diwydiant cyhoeddi," medden nhw.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.