Newyddion S4C

Lansiad pencampwriaeth Chwe Gwlad y merched

15/03/2024

Lansiad pencampwriaeth Chwe Gwlad y merched

Nid y sefyllfa fwyaf gyfforddus i chwaraewyr rygbi proffesiynol ond mae'n amlwg bod capteiniaid y Chwe Gwlad wedi mwynhau rhywfaint o gwmni ei gilydd yn ystod y digwyddiad yma sy'n nodi dechrau'r Chwe Gwlad.

O'r chwaraewyr i'r darlledwyr i'r dylanwadwyr cyfryngau cymdeithasol.

Mae 'na gyffro arbennig yma yn lansiad y bencampwriaeth eleni.

Mae e'n gyfle i hyfforddwyr a chapteiniaid gymysgu gyda'u gwrthwynebwyr ond gydag ychydig dros wythnos i fynd tan ddechrau'r ymgyrch bydd y cyfeillgarwch yna yn diflannu wrth i'w holl sylw nhw nawr droi at y gemau agoriadol.

"Edrych ymlaen yn fawr iawn at ddechrau'r bencampwriaeth.

"Cyffro yn y garfan hefyd. Gem gyntaf adre yn Caerdydd. "Dyna beth ni'n edrych ymlaen am."

Beth yw'r nod eleni a beth fydde pencampwriaeth lwyddiannus i Gymru?

"Wel, i wneud yr un peth a wnethon ni tymor diwethaf.

"Bydde hwnna'n dechreuad da.

"Mynd un cam nesaf wedi 'ny.

"Gobeithio cau'r bwlch 'na â Ffrainc a Lloegr."

Os mai cau'r bwlch yw'r nod fe fydde hynny'n golygu gwella ar eu llwyddiant y llynedd pan gorffennodd Cymru yn drydydd ar ôl curo'r Alban, Iwerddon a'r Eidal.

"Mae 'da ni lot o hyder ar ôl llynedd...

"..ond mae sialens 'da ni...

"..gyda Cwpan y Byd a WXV yn dod mewn.

"Ni'n moyn bod yn y top three."

Wrth i'r gamp dyfu o nerth i nerth, y gobaith eto eleni yw gwerthu mwy o docynnau ar gyfer pob un o'r gemau a denu mwy o sylw.

A'r sylw hwnnw yn amlwg iawn yn y lansiad.

"Be sy'n taro rhywun efo'r lansiad yma yw pa mor fawr yw e.

"Mae popeth yn mynd yn fwy ac yn fwy bob blwyddyn.

"Mae hwnna'n dangos y llwyfan sydd gyda gemau merched erbyn hyn.

"O'n i'n siarad 'da cyn-chwaraewraig rhyngwladol, Philippa Tuttiett... "..oedd yn arfer chwarae i Gymru... "..ddeg mlynedd yn ol, ro'n nhw'n gorfod rhannu'r sylw efo'r dynion. "Nawr - na. Mae'r bencampwriaeth yma'n cael y sylw haeddiannol... "..ar ei phen ei hun fel cystadleuaeth.

"Dyna le mae'r gemau merched arni ar hyn o bryd - a braf gweld hynny."

Efallai bod gem y merched wedi datblygu ond mae e dal yn amlwg bod yna wahaniaeth mawr rhwng y dynion a'r merched wrth iddyn nhw dal orfod mynd i'w pocedi eu hunain.

O'n i'n gweld ti'n sgwrsio gyda Marlie Packer yn gynharach.

"O'n ni'n siarad amdano'r boots.

"Bod ni dal yn talu amdano boots ni.

"O'n ni'n siarad amdano hwnna a cael fresh boots barod am y Chwe Gwlad."

Sgidie newydd ar gyfer yr ymgyrch newydd felly gyda'r gobaith y gall Cymru barhau i gamu yn y cyfeiriad cywir.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.