Newyddion S4C

Cyhoeddi bwrsariaeth er cof am Dr Llŷr Roberts

19/03/2024
Dr Llyr Roberts

Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gwahodd myfyrwyr i ymgeisio ar gyfer bwrsariaeth a fydd yn eu cefnogi gyda’u hastudiaethau cyfrwng Cymraeg.

Bydd y gronfa newydd gyda chydweithrediad teulu’r diweddar Dr Llŷr Roberts a Phrifysgol Bangor yn cefnogi myfyrwyr israddedig gyda’u hastudiaethau cyfrwng Cymraeg.

Bwriad yr arian fydd noddi taith at bwrpas sy'n gysylltiedig â’u hastudiaethau ac sydd â pherthnasedd i’r Gymraeg neu Astudiaethau Cymreig. 

Bydd hyd at £2,000 yn cael ei rhoi yn flynyddol gyda hyd at bedwar dyfarniad o tua £500 i bob myfyriwr buddugol.

Roedd Dr Llŷr Roberts, yn un o ddarlithwyr cysylltiol cyntaf y Coleg Cymraeg. Bu farw’n sydyn ym Mehefin 2023 yn 45 mlwydd oed.

Roedd yn Ysgrifennydd yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn byw yn y Felinheli.

Fe fydd y fwrseriaeth yn cael ei chyhoeddi yng Nghynulliad Blynyddol y Coleg Cymraeg yn Neuadd Powis y brifysgol.

'Argraff fawr'

Bydd Dr Dafydd Trystan, Cyfarwyddwr Datblygu Strategol ac Addysg Bellach a Chofrestrydd y Coleg Cymraeg, yn rhoi teyrnged i Llŷr yng nghwmni ei deulu, cyfeillion, a’i gydweithwyr.

“Roedd Llŷr yn gyfaill ac yn gydweithiwr annwyl iawn," meddai Dr Trystan.

“Mewn amser byr gwnaeth Llŷr argraff fawr ar ei gyd-weithwyr a’i fyfyrwyr. Yn 2022, enillodd wobr gan y Coleg am Adnodd Rhagorol am greu’r e-lyfr cyntaf ym maes Marchnata yn yr iaith Gymraeg.

“Roedd Llŷr yn angerddol am yr iaith Gymraeg, am astudiaethau busnes a marchnata, am gerddoriaeth ac am deithio. Mae ei waddol yn glir, ac mae’n briodol ein bod wedi sefydlu’r fwrsariaeth yma i gefnogi’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr gyda’u hastudiaethau cyfrwng Cymraeg.”

"Fe oedd un o’r Darlithwyr Cysylltiol cyntaf i gael ei benodi i swydd dan nawdd y Coleg Cymraeg. Aeth ymlaen i wneud cyfraniad amlweddog i addysg uwch cyfrwng Cymraeg ym maes Busnes ym Mhrifysgol De Cymru, Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac yn fwyaf diweddar, ym Mhrifysgol Bangor.

Fel rhan o’r noson bydd y Coleg Cymraeg yn urddo tri Chymrawd er Anrhydedd am gyfraniad oes.

Fe fydd Yr Athro Delyth Prys, Wyn Thomas a Linda Wyn yn derbyn yr anrhydeddau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.