Newyddion S4C

Ewthanasia: 22 o bobl yng Nghymru wedi teithio i'r Swistir i farw

18/03/2024
ewthanasia.png

Mae ymchwil newydd wedi datgelu fod 22 o bobl o Gymru wedi teithio i'r Swistir i gael cymorth i farw, neu ewthanasia. 

Mae data gan yr Assisted Dying Coalition wedi datgelu mai Conwy oedd y sir gyda'r nifer fwyaf o bobl yng Nghymru oedd wedi teithio i gael marwolaeth o'r fath gyda chymorth y mudiad, Dignitas, yn Y Swistir.

Roedd 5 o bobl o Gonwy wedi gwneud y daith.  

Roedd gan siroedd Sir Gâr, Bro Morgannwg, Gwynedd, Sir Fynwy ac Abertawe ddau o bobl yr un oedd wedi teithio i'r Swistir.

Un person yr un o siroedd Ynys Môn, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Ceredigion, Sir Ddinbych a Sir Benfro oedd wedi teithio. Mae'r ffigyrau wedi eu casglu ar gyfer y cyfnod rhwng Tachwedd 2002 ac Awst 2023. 

Yr Assisted Dying Coalition ydy'r sefydliad clymbleidiol yn y DU sy'n gweithio o blaid cael cydnabyddiaeth gyfreithiol o'r hawl i farw ar gyfer unigolion sydd yn derfynol wael i wireddu eu dymuniad i derfynu eu bywyd.

Ychwanegodd yr adroddiad fod awdurdodau lleol cyfoethocach yn gweld cyfraddau uwch o unigolion yn teithio dramor.

Dywedodd yr Ymgyrchydd ar gyfer Marwolaeth Gynorthwyedig i Humanists UK, Nathan Stilwell: "Mae'r adroddiad yn nodi yn glir fod cyfraith marwolaeth gynorthwyedig y DU wedi ei thorri, yn greulon ac yn farbaraidd.

"Mae'n rhaid i ni roi'r dewis, rhyddid ac urddas i bobl sydd yn y wlad hon ac sy'n dioddef.

"Mae cael loteri côd-post i roi'r diwedd i ddioddefaint, a system anghyfartal, lle mai dim ond y rhai cyfoethog a'r rhai sy'n abl yn gorfforol sy'n gallu cymryd mantais, yn hollol anghywir." 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.