Newyddion S4C

Sant Padrig: Dim sicrwydd ei fod yn Gymro ond 'yn bur debyg' yn siarad Cymraeg

17/03/2024
San Padre

A hithau’n Dydd Gŵyl Sant Padrig, mae un arbenigwr ar hanes Celtaidd wedi awgrymu ei fod yn debygol iawn o fod yn siaradwr Cymraeg. 

Fe gafodd Sant Padrig ei eni yn 380au yn nhre o’r enw Bannavem Taberniae, a hynny’n dangos “i sicrwydd” ei fod wedi ei eni ym Mhrydain, meddai Dr Simon Rodway wrth siarad â Newyddion S4C.

Mae rhai haneswyr eisoes wedi derbyn taw pentre’ Banwen yng Nghastell-nedd Port Talbot oedd man geni’r nawddsant o ganlyniad – ond does dim sicrwydd yn hynny, yn ôl Dr Rodway sy'n Uwch Ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwyth. 

“Ni’n lwcus iawn oherwydd bod gyda ni gwpwl o destunau ganddo fe ac mae fe’n dweud bod e’n dod o rywle o’r enw Bannavem Taberniae, ac mae hyn yn swnio fel Banwen," meddai.

“Mae’n bosib taw dyna le ‘odd e ond mae ‘na lefydd eraill yn Lloegr a’r Alban hefyd… felly ‘dyn ni ddim yn sicr. 

“Licen i feddwl bod e’n dod o Gymru ond ‘dyn ni ddim yn sicr.”

'Bendant' yn siarad Cymraeg

Er gwaetha’r ansicrwydd ynglŷn â’i wlad enedigol, mae gan nawddsant Iwerddon cysylltiadau cryf â Chymru o hyd, meddai Dr Rodway.

Mae’n debyg bod San Padrig yn siarad “rhyw fath” o Gymraeg cynnar, ac mae posibilrwydd hefyd mai Cymraeg oedd iaith y cartref. 

Dywedodd Dr Rodway: “Gan ein bod ni’n sôn am y bumed ganrif, ‘odd Cymru fel uned ddim yn bodoli bryd hynny, ond wrth gwrs mae’n bur debyg fod e’n siarad iaith Frythoneg fydda’ maes o law yn tyfu yn Gymraeg 

“Felly ni’n gallu hawlio fe fel Brython ac fel Cymro ieithyddol.” 

Mae dogfennau hanesyddol yn dangos bod nawddsant Iwerddon yn ysgrifennu gan ddefnyddio’r iaith Lladin, ond doedd hynny ddim yn “anghyffredin ar y pryd,” esboniodd Dr Rodway.

“Ond mae’n sôn am Ladin fel iaith estron, ac mae hynny’n golygu mae’n siŵr taw math o Frythoneg neu rywbeth tebyg iawn i’r Gymraeg oedd e’n siarad gartre’. 

“Mewn gwirionedd, mewn testunau diweddarach o Iwerddon maen nhw yn debyg yn cymryd yn ganiataol ei fod yn siarad rhyw fath o Gymraeg ac maen nhw’n cadw cofnod o ryw ddywediadau oedd e’n defnyddio gan honni mai yn y Gymraeg maen nhw. 

“Ond yn anffodus dwi ddim yn credu bod hynny’n wir. Hynny yw taw rhyw ffurfiau Lladin a falle Gwyddelig sydd yn y testunau yma.

“Ond ‘odd e’n siarad Cymraeg neu rywbeth yn debyg i’r Gymraeg yn sicr."

Beth oedd hanes San Padrig?

Wrth gofio am hanes San Padrig, mae’n “bwysig gwahaniaethu” rhwng ei destunau personol a’r rheini a gafodd eu cyflwyno yn ddiweddarach “sy’n llawn straeon sy’n falle’n annhebygol o gael unrhyw wirionedd ynddyn nhw".

Yn ôl ei destunau, fe gafodd Sant Padrig ei gipio gan forladron Gwyddelig a’i wneud yn gaethwas yn Iwerddon pan oedd yn fachgen 15 oed. 

“Roedd e’n dod o deulu cefnog ac yn cael ei orfodi wedyn i weithio yn cadw anifeiliaid yn Iwerddon," meddai.

“Nath e ddianc wedyn a dod yn ôl i Brydain ond yn ystod ei gyfnod o gaethiwed oedd wedi cael rhyw fath o dröedigaeth. 

“Oedd e’n Gristion mewn enw yn barod ond mae’n ddweud bod e ddim yn cymryd y peth o ddifri pan oedd o’n ifanc. 

“Ond wedyn fe gath e dröedigaeth a chlywed rhyw alwad i fynd yn ôl i Iwerddon i genhadu – a dyna be ‘nath e.”

Lluniau: Ffenest San Padrig (Wikimedia Commons) a Chroes Celtaidd ym Manwen (Aspire2B, Facebook)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.