'Dwi'n dod o Gymru ac Rwanda': Dyn ifanc yn cael ei farnu oherwydd Cynllun Rwanda
'Dwi'n dod o Gymru ac Rwanda': Dyn ifanc yn cael ei farnu oherwydd Cynllun Rwanda
“Prydferth, pobl dda a chymuned glôs”, dyna sut y mae bachgen o Abertawe sydd a’i wreiddiau yn Rwanda yn disgrifio’r wlad.
Mae Bowen Cole, 17 oed, sydd yn hanner Cymro a hanner Rwandiad yn teimlo fod Rwanda wedi derbyn beirniadaeth annheg wedi i gynlluniau dadleuol ceiswyr lloches y DU fod ar frig y penawdau newyddion dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
“Mae yna stigma mawr gyda Rwanda, ac mae’n ‘neud fi mor rhwystredig oherwydd mae yn wlad mor heddychlon a da,” meddai Bowen wrth Y Byd ar Bedwar mewn rhaglen arbennig yn Rwanda.
“Os bydd y ceiswyr lloches yn dod yma i Rwanda, neu os bydden nhw’n cael eu hanfon i Rwanda, bydd dim byd drwg yn digwydd. Bydden nhw yn cael eu trin fel pobl,” ychwanegodd.
I Bowen, mae’r ateb yn syml, y ceiswyr lloches ddylai benderfynu ble y byddant yn mudo.
“Dw’i yn erbyn y polisi; dim ond ar y ffaith, os yw mewnfudwyr eisiau mynd i’r DU, gadewch iddyn nhw fynd i’r DU,” meddai.
“Sut bydda chi'n teimlo os fyddwch chi'n rhedeg i ffwrdd o'ch gwlad a rhyfel i wlad ddiogel, dim ond i gael eich troi i ffwrdd?”
Ond yn ôl Bowen os aiff y cynllun yn ei flaen, does gan y ceiswyr lloches ddim i ofni.
“Os oes unrhyw wlad yn gwybod sut i drin mudwyr, a deall beth maen nhw ishe, ac yn eu trin fel pobl - Rwanda yw hi.”
Nod y bil yw anfon ceiswyr lloches i Rwanda er mwyn cael eu prosesu yna, fel rhan o ymdrech i leihau'r nifer o bobl sy'n croesi'r sianel ar gychod bach.
Os bydd eu ceisiadau yn llwyddiannus, bydd modd iddynt dderbyn statws ffoadur ac aros. Os na, gallent wneud cais i setlo yn Rwanda am resymau eraill, neu geisio lloches mewn "trydedd wlad ddiogel". Ni fyddai unrhyw geisiwr lloches yn cael dychwelyd i'r DU.
‘Cymru a Rwanda yn debyg’
Mae Bowen yn teithio i Rwanda yn flynyddol gyda’i fam i ymweld â theulu, ac mae’n gweld tebygolrwydd rhwng y ddwy wlad sy’n teimlo fel adra iddo.
“Un peth sydd fwyaf tebyg yw’r ffaith bod y mwyafrif o bobl yn undermineo Cymru a Rwanda. Mae’r bobl yma yn meddwl eu bod nhw’n adnabod y gwledydd yma, ond dy’n nhw ddim.”
Ers i gynlluniau'r llywodraeth gael eu cyhoeddi, mae Bowen wedi teimlo beirniadaeth ac yn dweud bod diwylliant a democratiaeth Rwanda yn cael eu cwestiynu gan nifer.
“Pan dwi’n dweud fy mod i’n dod o Rwanda, mae pobl yn dechrau fy nghwestiynu.”
“Wnes i erioed feddwl y byddwn i’n byw i weld y diwrnod rwy’n cael fy marnu am ddod o Rwanda.”
Mae pryderon wedi codi ynghylch gallu Rwanda i dderbyn mwy o ffoaduriaid.
Hyd at ddiwedd mis Medi 2023, roedd Rwanda wedi croesawu 135,733 o ffoaduriaid, ceiswyr lloches, a mudwyr eraill. Daw traean o'r rheini o Burundi, gwlad sy'n rhannu ei ffin â Rwanda.
‘Anodd yma’
Mae un ffoadur a gyrhaeddodd Rwanda o Burundi yn 2015 wedi dweud wrth Y Byd ar Bedwar nad yw wedi gallu dod o hyd i swydd.
Mae wedi dewis peidio datgelu ei enw er mwyn amddiffyn ei ddiogelwch.
“Mae’n anodd dod o hyd i swydd, rydw i wedi bod yn ceisio ers blynyddoedd. Mae llawer o bobl eisiau i chi weithio am ddim, ac maen nhw'n dweud y byddan nhw'n eich talu chi'n ddiweddarach, ond mae'n amhosibl. Mae dod o hyd i swydd yn anodd.”
“Dwi wedi derbyn rhai swyddi rhan amser… mae’n rhoi incwm bach i mi allu goroesi.”
Dywedodd ei fod wedi cymryd dwy flynedd iddo dderbyn statws ffoadur yn y wlad, proses y mae Llywodraeth Rwanda yn dweud y dylai gymryd dau fis yn unig.
“Pan fyddwch chi'n cyrraedd Rwanda, rydych chi'n cael pabell i fyw ynddo ... ac yna maen nhw'n ymchwilio i sicrhau eich bod chi'n ffoadur go iawn.”
“Fe gymerodd tua dwy flynedd i’r broses gyfan gael ei chwblhau, ac i mi gael fy nghofrestru fel ffoadur swyddogol.
“Doedd e ddim yn hawdd, roedd yn gyfnod anodd. Wnes i grio lot… dwi’n dal i feddwl am y sefyllfa a dwi’n teimlo’n drist, ond mae’n rhaid i mi ei dderbyn.”
Bydd gan y ceiswyr lloches sy’n dod o'r Deyrnas Unedig do dros eu pennau yn Hope Hostel, llety yng ngogledd prifddinas Rwanda - Kigali. Mae yna le ar gyfer 100 o bobol, ac mae disgwyl iddyn nhw aros yna am dri mis cyn cael eu symud i lety mwy parhaol.
Mae Lilly Carlisle yn gweithio i Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig (UNHCR) yn Rwanda. Mae hi wedi bod yn cefnogi ffoaduriaid yn y wlad ers dwy flynedd.
“Mae’n argyfwng hirfaith, mae’r ffoaduriaid wedi bod yma ers 10 mlynedd a mwy. Mae dod o hyd i swydd yn anodd. Mae tua 80-90% o ffoaduriaid yma yn gwbl ddibynnol ar gymorth dyngarol.”
Mae Ms Carlisle yn credu y byddai anfon mwy o geiswyr lloches i Rwanda yn peri risgiau difrifol i ddiogelwch ffoaduriaid.
“Mae hyn yn symud y baich, yn y bôn, o’r DU i Rwanda. Rydyn ni’n meddwl y dylai’r DU gymryd cyfrifoldeb am y ceiswyr lloches hyn wrth asesu eu hawliadau yn hytrach na symud y cyfrifoldeb i wlad fel Rwanda sydd eisoes â llawer i ddelio â’r boblogaeth ffoaduriaid presennol.”
“Ar hyn o bryd, nid ydym yn ystyried y system lloches yn ddiogel i ddod â mwy o bobl yma.”
Gwrthwynebiad
Mae cynllun llywodraeth y DU i anfon rhai ceiswyr lloches i Rwanda wedi wynebu sawl her gyfreithiol. Dyfarnodd Goruchaf Lys y DU yn unfrydol ym mis Tachwedd fod cynllun Rwanda yn anghyfreithlon ac y byddai ffoaduriaid mewn peryg o orfod dychwelyd i’w mamwlad.
Dywedodd Dr. Doris Uwicyeza Picard, Prif Gynghorydd Technegol ar gyfer Gweinyddiaeth Gyfiawnder Rwanda “nad oes risg o'r fath i unrhyw geiswyr lloches, nid dim ond y rhai sydd wedi'u hadleoli o'r DU”
Roedd Dr. Picard yn rhan o'r tîm a oedd yn gyfrifol am drafod telerau'r cytundeb gyda Llywodraeth y DU, a chwaraeodd ran allweddol wrth ddrafftio'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer y cynllun.
“Rydyn ni wedi cynyddu [prosesau] oherwydd nawr rydyn ni’n disgwyl cynnydd mewn ceisiadau lloches. Rydyn ni wedi cynyddu capasiti, rydyn ni’n diwygio ein proses loches gyfan.”
Wrth ymateb i honiadau o ddiffyg swyddi yn y wlad, dywedodd Dr. Picard: “Mae diweithdra yn broblem ym mhobman… y mwyaf o bobl sydd yna, y mwyaf o swyddi sydd yna. Mae swydd yn cael ei chreu gan y bobl.”
Mewn ymateb i ddyfarniad y Goruchaf Lys ym mis Tachwedd bod cynllun Rwanda yn anghyfreithlon, cyflwynodd y llywodraeth mesur newydd i wneud yn glir yng nghyfraith y DU bod Rwanda yn wlad ddiogel.
Ar ddechrau’r mis cafodd y ddeddfwriaeth ei drechu mewn pleidlais yn Nhŷ’r Arglwyddi.
Mae gwrthwynebwyr y cynllun yn pryderu ei fod yn rhoi’r DU mewn perygl o dorri cyfraith ryngwladol; y bydd yn arwain at gostau sylweddol i drethdalwyr y DU; a bod y cynllun ddim yn darparu llwybrau diogel a chyfreithlon i ffoaduriaid go iawn. Maent hefyd yn dweud nad yw'r cynllun yn cynnwys mesurau i fynd i'r afael â phobol sy'n smyglo mudwyr i Brydain.
Mae’r bil yn dychwelyd i’r Tŷ Cyffredin ddydd Llun, lle mae disgwyl i’r newidiadau a wnaed gan yr Arglwyddi gael eu gwrthdroi.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: “Rydym yn ymrwymo i gychwyn hediadau i Rwanda unwaith y bydd y Bil a’r Cytundeb yn eu lle.
“Mae gennym ni berthynas gref gyda Rwanda a byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’r wlad i roi’r polisi ar waith.”
Gwyliwch raglen Y Byd ar Bedwar yn llawn am 20.00 nos Lun ar S4C, Clic a BBC iPlayer.