Newyddion S4C

Chwe Gwlad: Beth sydd angen i Gymru ei wneud i osgoi'r llwy bren?

16/03/2024
Cymru v Iwerddon rygbi

Gyda gobeithion Cymru o osgoi gorffen yn olaf yn y Chwe Gwlad yn y fantol cyn herio'r Eidal ddydd Sadwrn, beth yn union sydd angen i dîm Warren Gatland ei wneud er mwyn osgoi'r llwy bren? 

Os ydi Yr Eidal yn ennill neu'n cael gêm gyfartal ddydd Sadwrn, fe fydd Cymru yn gorffen ar waelod y tabl am y tro cyntaf ers 2003. 

O ran Cymru, dim ond drwy sicrhau buddugoliaeth gyda phwynt bonws, gan gymryd bod Yr Eidal yn methu â sicrhau pwynt bonws am golli, fyddai'n ddigon i'w hatal rhag gorffen ar waelod y tabl. 

Fe fydd yr Azzurri yn gobeithio adeiladu ar eu momentwm diweddar, wedi iddynt guro Yr Alban yn y Stadio Olimpico yr wythnos ddiwethaf a sicrhau gêm gyfartal oddi cartref yn erbyn Ffrainc hefyd. 

Mae ganddynt hefyd yr hyder o wybod eu bod nhw wedi curo Cymru ar eu hymweliad diwethaf i Gaerdydd yn 2022.

Gallai buddugoliaeth gyda phwynt bonws i'r Eidal eu gweld nhw'n gorffen yn y trydydd safle, sef eu safle uchaf ers ymuno â'r Chwe Gwlad yn 2000, ond byddai hynny yn ddibynol ar ganlyniadau Yr Alban a Ffrainc. 

Y tîm

Fe fydd hi'n foment emosiynol i George North ddydd Sadwrn, wedi iddo gyhoeddi y bydd yn ymddeol o rygbi rhyngwladol ar ôl y gêm yn erbyn Yr Eidal. 

Dyma fydd ymddangosiad rhif 121 i North dros Gymru, ac ef sydd wedi sgorio’r ail nifer mwyaf o geisiau dros Gymru hefyd, wedi iddo sgorio ar 47 achlysur, sydd ail yn unig i Shane Williams. 

Bydd Nick Tompkins yn dychwelyd i dîm Cymru yn erbyn Yr Eidal ddydd Sadwrn, gyda Warren Gatland wedi gwneud pedwar newid i’w dîm i herio’r Eidalwyr.

Joe Roberts ac Owen Watkin sydd yn methu allan y tro hwn, ar ôl iddyn nhw chwarae yng nghanol cae yn y golled 24-45 yn erbyn y Ffrancwyr.

Bydd Dillon Lewis yn dechrau fel prop pen tynn yn lle Keiron Asiratti, tra bod Alex Mann yn dychwelyd i’r tîm cychwynnol, gyda’r clo Will Rowlands ar y fainc.

Bydd y capten Dafydd Jenkins yn symud yn ôl i’r ail reng i bartneru Adam Beard.

Tîm Cymru yn erbyn yr Eidal

15. Cameron Winnett (Caerdydd – 4 cap)
14. Josh Adams (Caerdydd – 58 cap)
13. George North (Gweilch – 120 cap)
12. Nick Tompkins (Saracens – 35 cap)
11. Rio Dyer (Dreigiau – 18 cap)
10. Sam Costelow (Scarlets – 11 cap)
9. Tomos Williams (Caerdydd – 57 cap)
1. Gareth Thomas (Gweilch – 29 cap)
2. Elliot Dee (Dreigiau – 50 cap)
3. Dillon Lewis (Harlequins – 56 cap)
4. Dafydd Jenkins (Caerwysg – 16 cap) Capten
5. Adam Beard (Gweilch – 55 cap)
6. Alex Mann (Caerdydd – 4 cap)
7. Tommy Reffell (Caerlŷr – 17 cap)
8. Aaron Wainwright (Dreigiau – 47 caps)

Eilyddion

16. Evan Lloyd (Caerdydd – 1 cap)
17. Kemsley Mathias (Scarlets – 1 cap)
18. Harri O’Connor (Scarlets – heb gap)
19. Will Rowlands (Racing 92 – 32 cap)
20. Mackenzie Martin (Caerdydd – 2 cap)
21. Kieran Hardy (Scarlets – 20 cap)
22. Ioan Lloyd (Scarlets – 6 cap)
23. Mason Grady (Caerdydd – 10 cap)
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.